Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF CAMPWS Y BAE

GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF YN Y BYD (QS World Rankings 2022) 100

RHAGLENNI YMCHWIL

• Gwyddor Chwaraeon MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Rydym ni ymhlith yr 20 Uchaf, ac yn un o'r 51-100 o Adrannau Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Uchaf yn y Byd (Times Good University Guide 2022, QS World Rankings 2022). • Rydym ni ymhlith yr 20 Uchaf yn y DU am Ymchwil (Times Higher Education 2022) a dyfarnwyd bod 100% o’n Hymchwil ‘yn arwain y byd’ ac ‘yn rhagorol yn rhyngwladol’ (REF 2021). • Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â sefydliadau a phartneriaid masnachol megis Diabetes UK, y Sugar Bureau, Haemair, Haemaflow Ltd, Chwarae Cymru, Ymddiriedolaethau’r GIG Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Undeb Rygbi Cymru, yr Uwch- gynghrair ac Actif Abertawe. • Rydym ni hefyd wedi gweithio gyda thimoedd chwaraeon elît, gan gynnwys Chwaraeon y DU, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Rygbi’r Scartlets, Rygbi Biarritz, Rygbi’r Gweilch, Rygbi 7 Undeb Rygbi Cymru, Nofio Prydain Fawr, a Bobslei Prydain Fawr. • Bydd graddedigion yn barod am amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous, fel y dengys ein hystadegau cyflogaeth trawiadol gyda 100% o raddedigion mewn cyflogaeth neu addysg bellach o fewn 6 mis (DLHE). CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Erasmus Mundus mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon MA ALl

• Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch MSc ALl

Mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn archwilio sut mae’r corff dynol yn perfformio dan lefelau gwahanol o bwysau, a materion ehangach sy’n berthnasol i gyfranogiad ehangach mewn chwaraeon, i foeseg, polisi cymdeithasol, seicoleg chwaraeon a maeth. Rydym ni’n paratoi graddedigion ar gyfer gyrfa sy’n rhoi boddhad yn y diwydiannau ffitrwydd a hamdden, perfformiad chwaraeon elit, cwmnïoedd fferyllol, gofal iechyd, ymchwil a mwy. Mae ein hymchwil yn pontio meysydd gwyddoniaeth, technoleg, iechyd a meddygaeth wedi’i gymhwyso i chwaraeon, ymarfer corff a sefyllfaoedd iechyd gyda phlant, pobl hŷn, grwpiau clinigol a phencampwyr elît rhyngwladol.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ein rhaglenni wedi’u hadeiladu ar arbenigedd staff a phartneriaethau i sicrhau bod myfyrwyr wedi’u harfogi â’r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol allweddol sy’n ofynnol er mwyn gweithio ym maes diwydiant neu ymchwil. • Cei dy addysgu gan arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw, a byddi di'n cael y cyfle i gydweithio ag arweinwyr diwydiant ac ymarferwyr.

• Mae gan staff gyfoeth o wybodaeth a phrofiad perthnasol gan eu bod yn ymgynghori’n rheolaidd mewn lleoliadau ymarfer corff â phoblogaethau â chlefyd cronig, gan gynnwys: diabetes, adferiad cardiaidd a gofal arennol. • Byddi di'n defnyddio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn helaeth, gan gynnwys y Labordy Biomecaneg, y Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff a Labordy Ymchwil A-STEM.

86

Made with FlippingBook flipbook maker