Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MARCHNATA CAMPWS Y BAE

AMGYLCHEDD YMCHWIL YN YR ADRAN FUSNES YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSTYRIR BOD 100 %

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Marchnata Strategol MSc ALl RhA

Bydd ein MSc mewn Marchnata Strategol yn rhoi i ti ddealltwriaeth uwch o farchnata cyfoes y gelli di ei defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau a sefyllfaoedd. Cynlluniwyd y rhaglen i roi sylfaen gref i fyfyrwyr mewn agweddau ymarferol a damcaniaethol ar farchnata cyfoes, gan gynnwys dealltwriaeth a gwerthfawrogiad manwl o faterion moesegol perthnasol a chyfrifoldeb cymdeithasol a fydd yn dy alluogi i chwarae rhan werthfawr yn y gwaith o sicrhau economi gynaliadwy, gynhwysol ac arloesol ar gyfer y dyfodol. Ar ôl cwblhau'r elfennau a addysgir o'r cwrs, cei di gyfle i ymgymryd â phrosiect marchnata sy'n seiliedig ar waith, gan roi dy sgiliau a dy wybodaeth newydd ar waith. Mae ein MSc hefyd yn rhan o Raglen Gradd Achrededig y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sy’n golygu y gallai ein myfyrwyr, ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, raddio gydag eithriadau o asesiadau CIM proffesiynol, gan leihau’r amser y byddai’n ei gymryd i ennill cymhwyster cydnabyddedig CIM.

PAM ABERTAWE? • Mae'r rhaglen yn addas i raddedigion marchnata a busnes

neu ymarferwyr proffesiynol sydd eisoes yn gyfarwydd â chysyniadau marchnata.

• Wedi'i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), corff proffesiynol byd-eang. • Mannau addysgu ac astudio yn adeilad yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddo ar Gampws y Bae. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Cyfryngau Digidol, MA • Cyfathrebu a Newyddiaduraeth Chwaraeon, MA • Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, MA • Newyddiaduraeth Ryngwladol, MA • Rheoli (Marchnata), MSc •Rheoli Twristiaeth Ryngwladol, MSc CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cyfle i gwblhau lleoliad gwaith tri mis, neu gelli di ddewis y llwybr mwy traddodiadol a chwblhau traethawd estynedig mewn agwedd arbenigol ar farchnata. • Ar ôl cwblhau'r MSc bydd gan fyfyrwyr eithriadau ar gyfer Tystysgrif neu Ddiploma Marchnata'r CIM.

• Cymorth eithriadol i fyfyrwyr ochr yn ochr â dy astudiaethau, gan gynnwys mynediad llawn at y tîm gyrfaoedd. • Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol.

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

101

Made with FlippingBook flipbook maker