Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MEDDYLIAU MAWR

CADAIR BERSONOL, LLENYDDIAETH SAESNEG AC YSGRIFENNU CREADIGOL

Mae’r Athro Daniel G. Williams yn feirniad diwylliannol ac yn un o ddeallusion cyhoeddus blaenllaw Cymru. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn amrywio o’r 19eg ganrif hyd heddiw ac yn cwmpasu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg ar ddwy ochr yr Iwerydd. Mae’r diddordebau hyn yn gysylltiedig â’i ddiddordeb mewn cenedlaetholdeb, ethnigrwydd a hunaniaeth. Mae’r Athro Williams yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Etholedig yr Academi Gymreig. Fe yw Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ac mae wedi gwasanaethu fel Llywydd NAASWCH (Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru). Ers 2016 mae’r Athro Williams wedi bod yn Gadeirydd Panel Dyfarnu Grantiau Cyngor Llyfrau Cymru (yn yr iaith Saesneg). Wedi derbyn ei addysg yn Ysgol Gyfun Penweddig, a Phrifysgolion Dwyrain Anglia, Harvard (lle fu’n gymrawd Frank Knox) a Chaergrawnt, dechreuodd yr Athro Williams ddysgu ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2000. Roedd yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol CREW (Canolfan Ymchwil i Lenyddiaeth ac Iaith Saesneg Cymru) rhwng 2001 a 2007 ac fe olynodd yr Athro M. Wynn

ymddangos yn or-ddramatig a di-chwaeth ar brydiau. Pwy yw’r Cymry i gymharu eu hunain â’r Iddewon (fel wna’r athronydd J. R. Jones), neu frodorion America (fel y gwna’r bardd R. S. Thomas) ? Ar ba sail y gellid gwneud cymariaethau o’r fath ? Y berthynas rhwng cymathu i ddiwylliant mwy a’r ymdrech i gynnal hunaniaeth leiafrifol yw’r cysylltiad. Yn wahanol i lyfrau hanes neu areithiau gwleidyddol, gall gwaith o lenyddiaeth gynnal sawl safbwynt ac hunaniaeth sydd yn ymrafael â’i gilydd, a hynny’n aml y tu hwnt i reolaeth yr awdur. Os am ddeall y modd y mae’r Cymry wedi meddwl am eu safle yn y byd, at ein llenyddiaeth – yn y ddwy iaith – y mae’n rhaid troi!” Fe yw golygydd y gyfres ryng-ddisgyblaethol Safbwyntiau: Gwleidyddiaeth, Diwylliant, Cymdeithas a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae fe wedi ysgrifennu tri llyfr: Ethnicity and Cultural Authority: from Arnold to Du Bois (2006), Black Skin, Blue Books: African Americans and Wales 1845 – 1945 (2012) a Wales Unchained: Literature and Politics in the American Century (2015) a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Ar hyn o bryd mae’r Athro Williams yn cwblhau, ar y cyd â Damian Walford Davies, cyfrol olaf yr ‘Oxford Literary History of Wales’, Welsh Writing in English, 1914 to the Present: Deaths and Entrance.

Thomas fel Cyfarwyddwr rhwng 2007 – 2010. Dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo yn 2013.

Mae’n dysgu ar draws y mwyafrif o gyfnodau, gyda ffocws penodol ar lenyddiaeth Affro-Americanaidd, Gwyddelig a Chymreig. Anela, yn ei ddysgu, at ddatblygu dulliau o gymharu traddodiadau llenyddol. Mae’n cydlynu cyrsiau ar yr MA Llên Saesneg Cymru ac wedi cyfarwyddo wyth PhD hyd at eu cwblhau, gyda’r pynciau’n amrywio o’r bardd Harri Webb i’r nofelydd Affro-Americanaidd Ishmael Reed, o Farcsiaeth Ewropeaidd i ôl-drefedigaethedd. “Un o’r pynciau sydd wedi cymryd fy niddordeb yn arbennig yn ddiweddar yw’r modd y mae’r Cymry wedi cymharu eu hunain â phobloedd eraill. Gall hyn

100

Made with FlippingBook flipbook maker