Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MSc Marchnata Strategol

Cwblheais fy semester cyfnewid ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn yn astudio fy ngradd israddedig yn Nenmarc. Sylweddolais pa mor dda oedd Prifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn. Cefais y syniad o ddychwelyd i Abertawe i gwblhau gradd meistr ar ôl un ddarlith yn benodol. Cadwais mewn cysylltiad â’r brifysgol drwy gydol y broses gwneud cais ac roedd y tîm mor gymwynasgar. Mae astudio cwrs ôl-raddedig yn golygu y gelli feithrin perthnasoedd hyd yn oed yn gryfach â

darlithwyr, ac mae hyn yn wych. Roeddwn i’n dwlu ar y modiwlau roedd modd i mi eu dewis, a oedd yn cynnwys marchnata digidol a marchnata mewn cymdeithas. Rwyf wedi cwrdd â chynifer o fyfyrwyr o bedwar ban byd ac erbyn hyn mae gen i ffrindiau o Fongolia a Thsieina. Roedd ymgartrefu’n hawdd: mae Abertawe’n ddinas ddiogel sydd â chymuned gyfeillgar, ac mae’n wych bod mor agos at draeth mor hardd.

Cwblheais fy semester cyfnewid ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn yn astudio fy ngradd israddedig yn Nenmarc. Sylweddolais pa mor dda oedd Prifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn.

102

Made with FlippingBook flipbook maker