Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MATHEMATEG CAMPWS Y BAE

(Complete University Guide 2023) YMCHWIL YN Y DU 20 AR Y CYD

RHAGLENNI YMCHWIL

• Mathemateg MSc drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA

• Prosesau Stocastig: Damcaniaeth a Chymhwyso MRes ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Mae’r Gwyddorau Mathemategol yn gydradd yn y 20 Uchaf yn y DU am Ymchwil (Times Higher Education 2022) gan dderbyn 100% ar gyfer effaith flaenllaw a byd-eang yn ei gyhoeddiadau ymchwil (REF 2021). • Mae ein cwrs Gwyddor Actiwaraidd wedi’i achredu gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid. • Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd mathemategol, ac mae’r rhan fwyaf wedi’u cydnabod gan yr Academi Addysg Uwch gyda naill ai Cymrodoriaeth neu Uwch-gymrodoriaeth. • Mae gan ein hadran gyfleusterau chyfrifiadurol yn adeilad y Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5m, gan roi mynediad i fyfyrwyr i leoedd a ddyluniwyd i fathemategwyr. • Rydym ni’n rhoi pwyslais cryf ar gynyddu cyflogadwyedd, ac mae llawer o’n graddedigion yn mynd ymlaen i gyflogaeth gydag amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys: AXA, BA, Deutsche Bank, Shell Research, Zurich Financial Services, awdurdodau iechyd, a llywodraeth leol. o’r radd flaenaf ar gyfer y gwyddorau mathemategol a

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Mathemateg a Chyfrifiadureg ar gyfer Cyllid MSc ALl RhA

• Gwyddor Actiwaraidd MSc ALl RhA • Mathemateg MSc ALl RhA

Mae Mathemateg yn Abertawe yn ehangu ac fe’i lleolir yn y Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5m newydd sbon, sy’n darparu cyfleusterau modern ac o’r radd flaenaf, yn ogystal â lle i rwydweithio a chael ysbrydoliaeth. Mae’n rhywle lle gall partneriaid diwydiannol gydweithio â ni, profi syniadau newydd a galluogi ein myfyrwyr a’n hymchwilwyr i weithio ar broblemau byd go iawn. Mae ein diddordebau ymchwil yn amrywiol ac maent yn cynnwys Algebra a Thopoleg, Dadansoddi Stocastig, Addysg Mathemateg, Dadansoddi Bandiau a

Hafaliadau Differol Rhannol Aflinol. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ein rhaglenni MSc yn ddelfrydol os wyt ti am ehangu dy wybodaeth BSc drwy amrywiaeth ehangach o bynciau, a dangos dy sgiliau llenyddiaeth ymchwil drwy draethawd estynedig. • Gelli di ddisgwyl astudio elfennau gwahanol ar fathemateg, megis elfennau mathemategol cyfrifiadura a damcaniaethau ystadegol.

• Byddi di’n datblygu dy sgiliau ymchwil, rheoli prosiect a marchnata, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. • Pan fyddi di’n graddio, byddi di’n fathemategwr gwybodus gyda’r sgiliau profedig i gyflawni prosiect sylweddol yn annibynnol, gan roi mantais

unigryw i ti yn y farchnad swyddi, sy’n dod yn fwyfwy cystadleuol.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg, PGCert

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

103

Made with FlippingBook flipbook maker