Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MRes Prosesau Stocastig: Damcaniaeth a Chymwyso PhD Mathemateg

Ers cwblhau fy BSc, datblygais ddiddordebau ymchwil mewn tebygolrwydd, a dod yn angerddol am greu atebion i broblemau byd go iawn gyda fy set o sgiliau. Mae'r Adran Fathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran arloesi yn y maes ac mae ganddi ddiwylliant ymchwil cryf. Ymhellach, mae gan staff ymchwil yn yr adran feysydd arbenigedd gan gynnwys disgyblaethau craidd damcaniaethau tebygolrwydd a phrosesau stocastig, a meysydd rhyngddisgyblaethol ystadegau cymhwysol a biofathemateg. Mae'r adran yn gweithio'n agos gyda sefydliadau proffesiynol, hynny yw, Cymdeithas Fathemategol Llundain a'r Sefydliad a Chyfadran Actiwarïaid. Cefais fentora a goruchwyliaeth academaidd ardderchog gan fy ngoruchwylwyr yn ystod fy ngradd MRes mewn Prosesau Stocastig a fy PhD mewn Mathemateg, ac roedd aelodau staff bob amser ar gael ar gyfer ymgynghoriadau pan oedd angen.

¨ An undergraduate-specific ranking that includes assessment of the institution’s research quality. Mae bellach gen i swydd ystadegydd yn yr adran Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rwy'n rhoi cyngor ac arweinyddiaeth o ran dylunio a dadansoddi rhaglenni ymchwil a gwerthuso cymhleth i gefnogi iechyd y boblogaeth. Bydd effaith ac effeithiolrwydd polisïau iechyd cyhoeddus ac ymyriadau yn gwella drwy ddefnyddio cofnodion iechyd electronig a gesglir yn rheolaidd a chymhwyso dulliau modelu mathemategol ac ystadegol i ddata mawr ym maes iechyd, gan arbed bywydau yn y pen draw. Mae'r Adran Fathemateg hefyd yn cefnogi rhaglenni hyfforddiant, adnoddau ar sgiliau ymchwil a datblygiad proffesiynol gan gynnwys ysgrifennu gwyddonol, rheoli prosiectau a sgiliau cyfathrebu. Drwy gydol fy amser yn Abertawe, gwnes i fwynhau beicio neu gerdded yn ling-di-long i'r Mwmbwls ar hyd y traeth yn benodol, yn ogystal â pha mor gyflym roedd i gyrraedd y campws, y traeth a'r dref.

Mae'r Adran Fathemateg ym Mhrifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran arloesi yn y maes ac mae ganddi ddiwylliant ymchwil cryf.

104

Made with FlippingBook flipbook maker