Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Bydd angen ychydig mwy o ymdrech a meddwl i gychwyn ar PhD a hunangynlluniwyd, ond yn y bôn, dylet fod â thema i dy brosiect sydd wirioneddol yn dy gyffroi ac o ddiddordeb i ti.

CYSYLLTA Â DARPAR ORUCHWYLWYR:

Ar ôl creu syniad cychwynnol ar gyfer prosiect, bydd angen i ti ddod o hyd i oruchwyliwr academaidd priodol. Man dechrau da yw dod o hyd i’r adran yn y Brifysgol sydd â’r meysydd cryf sydd fwyaf perthnasol i dy waith ymchwil. Gelli hefyd chwilio cyfeiriadur arbenigedd Prifysgol Abertawe ar-lein, siarad â dy oruchwyliwr presennol, cer i ffair astudio neu noswaith agored ôl-raddedig. Ceir nifer o ffyrdd y gelli ariannu dy PhD gan gynnwys benthyciadau sydd ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru a Chyllid Myfyrwyr Lloegr. DARGANFYDDA FWY  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ffioedd-ac-ariannu/benthyciadau-ol-raddedig CYLLID: Ar ôl i ti adnabod darpar oruchwyliwr ar gyfer dy syniad ymchwil, bydd angen i ti gysylltu ag ef cyn cyflwyno cais ffurfiol. Mae academyddion yn croesawu ceisiadau anffurfiol gan ddarpar fyfyrwyr a byddant hefyd yn dy helpu ti i ffurfio dy gynnig ymchwil. Dylet ti gynnal dy ymchwil cyn i ti gyflwyno dy gais a threulio amser yn ei baratoi. Pob lwc! GWNEUD CAIS:

137

Made with FlippingBook flipbook maker