Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Gelli gychwyn dy PhD ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Hydref, Ionawr, Ebrill neu Orffennaf. Rho 3 i 6 mis i dy hun i gynllunio ac ymchwilio cyn i ti gyflwyno dy gais. Yn Abertawe, rydym yn cynnig dau brif fath o brosiect PhD: • Y rhai sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw gan academydd (sy’n fwy cyffredin mewn pynciau gwyddoniaeth a pheirianneg) • Y rhai rwyt ti’n eu dylunio dy hun

AM PhD ?

Bydd prosiect a gynlluniwyd ymlaen llaw yn aml yn rhan o waith ymchwil ehangach a wneir gan academydd neu grŵp ymchwil. Fel arfer bydd teitl a nodau ac amcanion penodol i’r mathau hyn o brosiectau, a byddi di fel rheol yn cael dy oruchwylio gan yr academydd a gynlluniodd y prosiect. Mae Prifysgol Abertawe yn hysbysebu nifer fawr o’r cyfleoedd hyn drwy gydol y flwyddyn academaidd ym mhob maes pwnc.

CYLLID:

Mae ysgoloriaethau ymchwil yn Abertawe fel arfer yn cynnig cyllid ar gyfer cyfnod dy astudiaethau. Mae benthyciadau PhD ar gael hefyd trwy Gyllid Myfyrwyr Lloegr a Chyllid Myfyrwyr Cymru.

GWNEUD CAIS:

Mae gwneud cais am brosiect a gynlluniwyd ymlaen llaw yn syml – yr unig beth y bydd angen i ti ei wneud bydd dilyn y cyfarwyddiadau ar hysbyseb y prosiect. Fel arfer bydd gan y rhain dyddiad cau penodol felly rho ddigon o amser i dy hunan i gwblhau unrhyw waith papur a chasglu geirdaon os oes angen.

136

Made with FlippingBook flipbook maker