Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

04

05

PARATOI

Efallai yr hoffet ddechrau ystyried ble rwyt ti am fyw pan fyddi di’n astudio gyda ni. Mae dewis eang o opsiynau llety hyblyg yn y Brifysgol a’r sector preifat ar gael yn Abertawe.

GWNA GAIS AM GYLLID

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau ôl-raddedig ym mhob maes pwnc, yn ogystal â ffynonellau eraill o gyllid. Mae’r broses ymgeisio am gyllid myfyriwr yn agor ym mis Mehefin fel arfer.

07

COFRESTRU Cyn i ti gyrraedd Abertawe, byddi di’n derbyn cyfarwyddiadau llawn am y broses gofrestru. Gwahoddir yr holl fyfyrwyr ôl-raddedig i ddod i ddigwyddiad sefydlu yn eu cyfadran hefyd – cyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd!

06

CANLYNIADAU

Os wyt yn sefyll arholiadau, byddi di’n derbyn y canlyniadau ac, ar yr amod dy fod yn bodloni telerau dy gynnig, caiff dy le i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ei gadarnhau. Byddi di hefyd yn clywed a wyt wedi bod yn llwyddiannus os gwnaethost gais am ysgoloriaethau.

135

Made with FlippingBook flipbook maker