Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

02

GWNA GAIS A DERBYN DY GYNNIG

Gelli wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Abertawe ar gyfer y rhan fwyaf o’n cyrsiau ôl-raddedig (mae rhai rhaglenni’n eithriadau). Fel arfer, byddi di’n clywed a ydym wedi cynnig lle i ti astudio ar y cwrs neu’r cyrsiau rwyt wedi’u dewis o fewn 9 diwrnod gwaith. Gelli wneud cais erbyn diwedd mis Gorffennaf (ar gyfer mynediad ym mis Medi) ac ar ddiwedd mis Tachwedd (ar gyfer mynediad ym mis Ionawr) fan bellaf ond paid â’i adael yn rhy hwyr oherwydd y gelli golli cyfleoedd am ysgoloriaethau.

LLINELL AMSER Y CAIS P’un a yw dy gwrs yn dechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr, mae’n syniad da i ti ddechrau meddwl am opsiynau astudio ôl-raddedig o leiaf chwe mis cyn i’r cwrs ddechrau.

01

DECHRAU CYNLLUNIO Wyt ti am barhau i astudio dy bwnc presennol neu astudio mewn maes hollol wahanol ? Byddai’n syniad da meddwl hefyd beth fyddai orau i ti – gradd wedi’i haddysgu neu radd ymchwil. Mae’n syniad da cysylltu â dy ganolwyr a pharatoi datganiad personol cyn dechrau dy gais. Bydd ein Nosweithiau Agored Ôl-raddedig yn rhoi cyfle i ti archwilio dy holl opsiynau ar ein campysau sydd ger y traeth. Darganfydda fwy:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored

03

DERBYN DY GYNNIG Rho wybod i ni o fewn 28 diwrnod i sicrhau dy fod yn cael lle ar y cwrs o dy ddewis.

134

Made with FlippingBook flipbook maker