Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PROSES ANSAFONOL AR GYFER GWNEUD CAIS Mae gan rai rhaglenni proses cyflwyno cais wahanol. Cer i’r wefan i dderbyn gwybodaeth am y broses cyflwyno cais ar gyfer dy raglen ti:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ sut-i-wneud-cais/proses- gwneud-cais BETH SYDD EI ANGEN ARNAT? Er mwyn astudio rhaglen ôl- raddedig yn Abertawe, fel arfer bydd angen gradd anrhydedd neu gymhwyster ôl-raddedig priodol arnat. Mae’n bosibl y caiff profiad gwaith perthnasol hefyd ei ystyried er mwyn cael dy dderbyn i raglenni gradd a addysgir. Gweler manylion y rhaglen am ofynion mynediad manwl. DYDDIADAU A DYDDIADAU CAU Mae gan rai o’n hadrannau ddyddiadau cau sefydlog ar gyfer eu rhaglenni a addysgir. Rydym ni’n argymell dy fod yn cyflwyno dy geisiadau am radd Meistr a addysgir cyn gynted â phosibl oherwydd y gellir dwyn ymlaen y

EIN POLISI DERBYN Mae’r Brifysgol yn croesawu

dyddiadau cau hyn mewn rhai achosion oherwydd poblogrwydd rhai o’n cyrsiau. Sylwer ar derfynau amser ysgoloriaethau gan fod llawer o’n hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau a addysgir yn cau yn gynharach na’r dyddiadau

ceisiadau ac ymholiadau gan bob unigolyn ni waeth beth fo’i oedran, hil, tarddiad ethnig neu genedlaethol, credoau crefyddol neu wleidyddol, rhywedd, dewisiadau rhywiol, statws priodasol, cyfrifoldeb teuluol, ac anabledd corfforol neu synhwyraidd, onid yw’r gweithgareddau hyn yn anghyfreithlon neu’n mynd yn groes i bolisi’r Brifysgol. Mae’r Brifysgol yn trin pob ymgeisydd yn ôl ei rinweddau unigol ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ag amrywiaeth o gymwysterau a phrofiad gwaith. Gellir cael y manylion llawn am ein polisïau yma:  abertawe.ac.uk/astudio/ derbyn-myfyrwyr/polisi-derbyn

cau ar gyfer ceisiadau. Gweler ein gwefan am y dyddiadau perthnasol:

 abertawe.ac.uk/astudio/ derbyn-myfyrwyr/ dyddiadau-cau-ymgeisio COFRESTRU Caiff gwybodaeth am y broses gofrestru ei hanfon atat cyn i ti ddechrau astudio. Fel arfer, cynhelir y broses gofrestru ar gyfer rhaglenni a addysgir ddechrau mis Medi ar gyfer mynediad ym mis Medi ac ar ddechrau mis Ionawr ar gyfer mynediad ym mis Ionawr. Noder ei bod yn ofynnol i bob myfyriwr gydymffurfio â gweithdrefnau cofrestru’r Brifysgol a pharchu Rheoliadau Cyffredinol ac Academaidd y Brifysgol – gweler:  myuni.abertawe.ac.uk/ bywyd-academaidd/ rheoliadau-academaidd

DIWRNODAU AGORED Darganfydda fwy am Brifysgol Abertawe a’n rhaglenni Ôl-raddedig trwy archebu lle ar un o’n diwrnodau agored sydd ar ddod*.

CADWA DY LE HEDDIW: 

a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored *edrycha ar ein gwefan i gael manylion llawn, dyddiadau a fformat y diwrnodau agored sydd ar ddod.

133

Made with FlippingBook flipbook maker