Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

SUT I

Mae ein ffurflen gais ar-lein yn caniatáu i ti olrhain dy gais yn ystod pob cam o’r broses. abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ sut-i-wneud-cais Pan fyddwn yn derbyn dy gais, byddwn yn: • Sicrhau dy fod yn bodloni ein gofynion mynediad academaidd a’n gofynion anacademaidd (os yw’n briodol) • Cadarnhau dy fod yn meddu ar y profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i astudio’r pwnc. • Edrych am dystiolaeth o dy ymrwymiad a dy gymhelliant, a dy gyflawniadau. • Ystyried dy eirdaon. CEISIADAU AM RADD MEISTR A ADDYSGIR Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl ddogfennaeth ategol angenrheidiol, byddwn yn anelu at dy hysbysu o’n penderfyniad (neu anfon gwahoddiad i ti ddod am gyfweliad) o fewn 9 diwrnod gwaith o’r dyddiad y byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn dy gais. CEISIADAU AM GYRSIAU GRADD YMCHWIL Er mwyn sicrhau bod digon o amser i staff academaidd ystyried dy gais a bodloni amodau cynnig posib a gofynion teithio/adleoli, rydym yn

Sylwer ei bod hi’n bosib gwneud cais y tu hwnt i’r dyddiadau a awgrymwyd isod ond ei bod hi’n bosib y bydd angen symud dy gais/ cynnig posib i’r ffenestr dderbyn briodol nesaf. Cofrestru ym mis Hydref • Ymgeiswyr o’r DU – 15 Awst Cofrestru ym mis Ionawr • Ymgeiswyr o’r DU – 15 Tachwedd Cofrestru ym mis Ebrill • Ymgeiswyr o’r DU – 15 Chwefror Cofrestru ym mis Gorffennaf • Ymgeiswyr o’r DU – 15 Mai CYFWELIADAU Ni fydd angen cynnal cyfweliad fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni. Os bydd angen cynnal cyfweliad, cei dy hysbysu o ddiben a fformat y cyfweliad er mwyn i ti wybod beth i’w ddisgwyl a pha ran y mae’r cyfweliad yn ei chwarae yn y broses ddethol gyffredinol. Mae rhai rhaglenni (er enghraifft, MA mewn Ysgrifennu Creadigol) yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu gwaith ysgrifenedig ychwanegol i ategu cais. Ar ôl ystyried dy gais, cei wybod y canlynol: • Ein bod yn bwriadu cynnig lle i ti • Ein bod yn bwriadu dy wahodd am gyfweliad • Ni allwn gynnig lle i ti

Byddi di naill ai’n derbyn cynnig amodol neu gynnig diamod gennym, neu byddwn yn rhoi gwybod i ti na allwn gynnig lle i ti. Byddwn yn dy hysbysu o’n penderfyniad drwy neges e-bost. Noder mai dim ond Swyddfa Dderbyn y Brifysgol sy’n gwneud academaidd berthnasol. Bydd dy lythyr cynnig yn cynnwys manylion llawn telerau ac amodau’r cynnig. Os wyt yn gwneud cais i astudio’n llawn amser, byddi di hefyd yn cael manylion sut i wneud cais am lety’r Brifysgol. cynigion ffurfiol, yn dilyn argymhellion gan yr adran Os oes gen ti anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol, fe dy wahoddir i gysylltu â Swyddfa Anabledd y Brifysgol neu’r Gwasanaeth Lles fel y gallwn fod yn siŵr ein bod yn rhoi’r cymorth angenrheidiol i ti drwy gydol dy astudiaethau. Ar ôl derbyn ein cynnig, os na fyddi di’n bodloni union amodau ein cynnig, mae’n bosibl y caiff dy gais ei ailystyried gan ddibynnu ar y lleoedd gwag sydd ar gael, ac mae’n bosibl y caiff dy le ei gadarnhau o hyd. Os na fydd dy gais yn llwyddiannus, a dy fod o’r farn ein bod wedi gwneud camgymeriad, gelli ofyn i ni ailystyried dy gais. Cysyllta â’r Swyddfa Dderbyn am ragor o fanylion.

argymell y caiff ceisiadau eu gwneud cyn y dyddiadau a amlinellwyd isod.

132

Made with FlippingBook flipbook maker