Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MEWN CYSYLLTIAD

Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn sicrhau y gelli gadw cysylltiad agos â’r Brifysgol ymhell ar ôl i swˆn y cymeradwyo yn dy seremoni raddio bylu. Mae ein holl raddedigion yn dod yn aelodau oes yn awtomatig o’r Gymdeithas, cymuned gynnes a chroesawgar o raddedigion sy’n cael eu huno gan eu profiad o

Mae rhai yn arwain adrannau cwmnïau rhyngwladol, ond mae eraill yr un mor debygol o reoli’r busnesau llai a mentrus sy’n ysgogi’r economi, neu’n darparu gofal iechyd mewn ysbytai, neu’n addysgu mewn ysgolion. Y mae hefyd cymuned gynyddol fawr o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol, sy’n golygu y byddi di’n dod o hyd i gyfeillion a chydweithwyr o’r un anian lle bynnag ei di yn y byd. Gwna’r gorau o’r rhwydwaith hwn. Pwy a wˆyr pa ddrysau allai agor i ti yn y DU neu dramor o ganlyniad i’r perthnasoedd a grëwyd trwy fod yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe. Darganfydda fwy:  abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr

WYT TI’N GYN-FYFYRIWR PRIFYSGOL ABERTAWE? Mae ein cyn-fyfyrwyr yn helpu i lunio a mireinio ein cyrsiau ac mae dy adborth yn bwysig i ni. Darganfydda fwy a chymryd rhan yn yr arolwg Canlyniadau Graddedigion cenedlaethol a chadwa dy fanylion cyswllt yn gyfredol yma:  abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ graddedigion-newydd/ hynt-graddedigion

astudio yn Abertawe. Mae gan Rwydwaith y

Cyn-fyfyrwyr fwy na 175,000 o aelodau a byddi di’n dod o hyd i gyn-fyfyrwyr sy’n gweithio ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon, a’r sector cyhoeddus.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn cynnwys: •  Alun-Wyn Jones , capten rhyngwladol Cymru a’r Llewod • Andy Hopper CBE FRS , Cyd-sefydlydd Acorn Computers Ltd • Annabelle Apsion , Actores • A nne Boden , Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Banc Starling • C arol Robinson , Llywydd y Gymdeithas Cemeg Frenhinol • C hristina Macfarlane , Cysylltwr Chwaraeon a Newyddion ar gyfer CNN Rhyngwladol • Jason Mohammad , Cyflwynydd Teledu

• John Maidens , Awdur/Cyfarwyddwr, Holby City, Casualty, Doctors • Lana Haddad , COO Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol • Liam Dutton , Cyflwynydd y Tywydd ar Channel 4 • Liz Johnson , Nofiwr ac enillydd Medal Aur yn y Gemau Paralympaidd • D r Lyn Evans CBE , Arweinydd Prosiect, Large Hadron Collider, CERN • Richey Edwards and Nicky Wire , Cerddorion, Manic Street Preachers • Syr Terry Matthews OBE , biliwnydd cyntaf Cymru • Sylvia Heal MP , Dirprwy Siaradwr Tˆy’r Cyffredin (2000-10)

abertawe.ac.uk/ cyn-fyfyrwyr

Prifysgol Abertawe Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr

SwansAlumni

@Swansea_Alumni

DILYN NI:

131

Made with FlippingBook flipbook maker