Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

A ADDYSGIR

Mae graddau ôl-raddedig a addysgir yn fwy heriol yn academaidd na rhaglenni israddedig. Mae angen mwy o ddysgu hunangyfeiriedig ac fe’u dyfernir i fyfyrwyr sy’n dangos dealltwriaeth estynedig o bwnc penodol. Caiff graddau meistr eu cyflawni drwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir a gwaith cwrs wedi’i asesu, a disgwylir i fyfyrwyr gwblhau prosiect ymchwil neu draethawd hir manwl.

Mae graddau meistr a addysgir yn gweithredu fel arfer ar sail modiwlau, sy’n golygu bod myfyrwyr yn dilyn cyfres o fodiwlau a addysgir sy’n werth cyfanswm o 180 o gredydau. Gellir ennill 120 o gredydau o fodiwlau a addysgir, a 60 o gredydau o’r traethawd hir. Mae rhaglenni meistr a addysgir yn aml yn cynnwys cyrsiau sgiliau ymchwil a methodoleg a chyrsiau hyfforddi adrannol penodol, sy’n hanfodol i fyfyrwyr ar lefel meistr a’r rheini sy’n awyddus i barhau i astudio ar gyfer graddau uwch. Mae cyrsiau hyfforddi arbenigol ychwanegol hefyd ar gael yn

ystod y flwyddyn academaidd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Diploma Ôl-raddedig, rhaid i fyfyrwyr anelu at 120 o gredydau, neu 60 o gredydau ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig. (Mae rheoliadau penodol yn berthnasol – noder nad yw pob rhaglen yn cynnig y cymwysterau ymadael hyn.) DEWIS RHAGLEN Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raddau ôl-raddedig a addysgir, gan gynnwys MA, MSc ac LLM. Gelli ddilyn cwrs ôl-raddedig yn yr un pwnc â dy radd israddedig neu, mewn llawer o achosion, mewn pwnc arall.

08

Made with FlippingBook flipbook maker