Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

LLWYBR CARLAM Os wyt ti’n fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Abertawe, gelli di wneud cais i astudio ar gwrs Meistr cymwys drwy lwybr carlam. Mae’n gyflym ac yn hawdd a byddi di’n

derbyn penderfyniad o fewn 48 o oriau gwaith!

AI GRADD ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR YW’R DEWIS PRIODOL I MI? Ie, os wyt am wneud y canlynol: • Gwella dy ragolygon gyrfa • Meithrin sgiliau newydd ac arbenigol • Paratoi ar gyfer gradd ymchwil • Datblygu dy wybodaeth bwnc o dy radd gyntaf • Astudio pwnc newydd sbon CYRSIAU TROSI Os wyt ti am newid cyfeiriad dy astudiaethau neu lwybr gyrfa nad yw’n gysylltiedig â dy radd israddedig, rydym ni’n cynnig cyfle i ti astudio cwrs trosi. Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i raddedigion o unrhyw faes pwnc astudio cwrs meistr ôl-raddedig heb unrhyw gymwysterau perthnasol blaenorol. Mae gennym ddetholiad amrywiol o gyrsiau trosi ar gael ym maes cyllid, gwyddoniaeth, peirianneg, gwyddor iechyd, meddygaeth, y gyfraith, rheoli busnes a’r celfyddydau a’r dyniaethau. A ALLAF ASTUDIO’N RHAN AMSER? Fel arfer, gellir astudio ar gyfer rhaglenni Meistr, Diplomâu Ôl-raddedig a Thystysgrifau Ôl-raddedig yn llawn amser neu’n rhan amser mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc. Fe dy anogir i gysylltu â’r adran academaidd dan sylw cyn gwneud cais. Cadwa lygad am y symbol RhA ar ein tudalennau cyrsiau.

ASESIAD DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG Gelli gyflwyno gwaith

ymchwil yn y Gymraeg os yw dy oruchwylwyr yn gallu goruchwylio gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg.

09 09

Made with FlippingBook flipbook maker