Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

TROSEDDEG CAMPWS SINGLETON

YMCHWIL (The Times Good University Guide 2022) ¨ YN Y DU 30

RHAGLENNI YMCHWIL

• Dyniaethau Iechyd PhD/MPhil ALl RhA

• Troseddeg PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Byddi di’n ymuno ag adran o'r radd flaenaf. • Rydym yn cynnig cyfleoedd i

• Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg MA ALl RhA • Seiberdroseddu a Therfysgaeth MA ALl RhA

ymgysylltu â sefydliadau partner a grwpiau a phrosiectau ymchwil. • Byddi di’n dysgu am y datblygiadau rhyngwladol diweddaraf mewn ymchwil i droseddeg a chyfiawnder troseddol. • Rydym yn darparu cymorth personol, academaidd a chyflogadwyedd rhagorol i ti drwy gydol dy radd. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Mae'r Adran Droseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn gartref i gymuned academaidd ac ymchwil fywiog, gan ddatblygu'n barhaus i sicrhau bod ein graddedigion yn gallu ymateb i'r heriau a achosir gan dirweddau troseddeg a chyfiawnder troseddol sy'n newid yn barhaus. Byddi di’n dysgu am achosion troseddu, y system cyfiawnder troseddol a themâu blaengar eraill, gyda chefnogaeth academyddion sydd â phrofiad yn y byd go iawn. Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol mawr, gan archwilio'r effaith ar bolisi troseddu a chyfiawnder troseddol.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae siaradwyr gwadd yn cynnwys uwch-ymarferwyr cyfiawnder troseddol, rheolwyr a llunwyr polisi. • Mae ein grwpiau darlithoedd bach yn rhoi cyfle i ti leisio dy farn a rhannu syniadau.

• Gelli di ymuno â digwyddiadau cymdeithasol a drefnir gan y Gymdeithas Droseddeg dan arweiniad myfyrwyr. • Cymorth cyflogadwyedd eithriadol, gydag ystod o fentrau a chysylltiadau â chyflogwyr allweddol.

¨ Safleoedd sy’n benodol i israddedigion sy’n cynnwys asesu ansawdd ymchwil sefydliad.

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

127

Made with FlippingBook flipbook maker