Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

TAR Ffiseg

Mae astudio’r cwrs TAR ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn brofiad hwylus iawn! Roeddwn yn benderfynol o wneud fy TAR trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan Brifysgol Abertawe enw da ac adnoddau safon uchel megis labordai gwyddoniaeth modern. Er fy mod i wedi bod allan o addysg Gymraeg ers pedair blynedd cyn dychwelyd i Gymru i wneud y TAR, roeddwn i’n fawr o dro yn dod i afael yn yr iaith unwaith eto. Mae’r cwrs yn un hyblyg iawn yn nhermau’r Gymraeg, nid yn unig wrth ddewis gwneud dy waith fel y Pasbort Dysgu Proffesiynol a Thraethodau trwy’r Gymraeg, ond hefyd am leoliadau – gan fod rhai ysgolion yn ddwyieithog (yn enwedig CA4/Lefel A) ac eraill yn unieithog, sy’n rhoi cyfle i feithrin hyder yn dy Gymraeg wrth barhau i ddysgu trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Derbyniais swydd ym mis Rhagfyr, sy’n dangos yr angen dirfawr am athrawon gwyddoniaeth sy’n gallu siarad Cymraeg. O’r chwe gwyddonydd

Cymraeg TAR yn Abertawe cafodd pob un ohonom swydd erbyn mis Mai, tra bod nifer mawr o swyddi’n dal i gael eu hysbysebu hyd at wyliau’r haf. Diwrnod ar ôl cwblhau’r cwrs TAR, roeddwn i’n gwneud gwaith cyflenwi cyn y gwyliau haf yn yr ysgol y byddaf yn gweithio ynddi fis Medi. Roedd yn gyfle i mi ddod i 'nabod yr ysgol, plant a’r staff cyn mis Medi. Roeddwn i ychydig yn amheus am ymuno ag addysg ond fel llawer o bobl, pandemig COVID-19 wthiodd fi i wneud y naid i faes dysgu, ac un o’r ffactorau mwyaf deniadol o ddysgu oedd diogelwch swydd a’r hyblygrwydd i ddysgu bron unrhyw le. Mae hwn, ynghyd â’r cymhelliant ar gyfer dysgu gwyddoniaeth yn meddwl bod gen i gyfle i fyw yn agos at fy nheulu, prynu tŷ a sicrhau fy nyfodol. Roeddwn yn ffodus i dderbyn cefnogaeth ariannol drwy’r Cymhelliant Hyfforddi Athrawon Mathemateg a Gwyddoniaeth a Chymhelliant Iaith Athrawon Yfory.

Mae astudio’r cwrs TAR ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn brofiad hwylus iawn! Roeddwn yn benderfynol o wneud fy TAR trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gan Brifysgol Abertawe enw da ac adnoddau safon uchel megis labordai gwyddoniaeth modern .

126

Made with FlippingBook flipbook maker