Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

81 % YSTYRIR BOD

TAR – UWCHRADD CAMPWS SINGLETON

YMCHWIL MEWN ADDYSG, CYMDEITHASEG & PHOLISI CYMDEITHASOL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Dylunio a Thechnoleg PGCert ALl

• TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Ieithoedd Tramor Modern (Ffrangeg, Sbaeneg) PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg PGCert ALl • TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg PGCert ALl

PAM ABERTAWE? • Rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig wedi'u llywio gan y diweddaraf o ran ymchwil ac arloesi. • Bydd adnoddau hyfforddiant gwerthfawr ar gael i ti. • Tîm Cyflogadwyedd a Lleoliadau Gwaith pwrpasol ar y safle yn benodol ar gyfer ein myfyrwyr, sy'n darparu awgrymiadau gyrfa, gweithdai a chyngor. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Addysg, MA/PGCert/PGDip • Addysg (Cymru), MA • Addysg (Cymru): Anghenion Dysgu Ychwanegol, MA • Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth, MA • Addysg, PhD/MPhil • Doethur mewn Addysg (EdD)

Mae ein rhaglen TAR Uwchradd yn canolbwyntio ar dy gefnogi i ddod yn ymarferydd hyderus a myfyriol sy'n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus yn yr ystafell ddosbarth. Drwy gydol y rhaglen, cei di dy annog i gymhwyso damcaniaeth ac ymchwil i dy ymarfer dy hun a chael cyfleoedd i ddatblygu'r wybodaeth am bynciau, addysgeg ac ymchwil a fydd yn dy alluogi i ddod yn athro sy'n gallu ymateb yn bwrpasol i anghenion dy ddisgyblion. Cei di dy gefnogi'n llawn, yn yr ysgol ac yn y brifysgol, drwy gydol y rhaglen i dy helpu i gyrraedd dy botensial fel athro.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Rhaglen TAR integredig a thrylwyr

• Mae PYPA wedi ymrwymo i ddatblygu ymarferwyr myfyriol wedi'u llywio gan ymchwil a all ddangos creadigrwydd a

Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) a fydd yn dy herio'n academaidd ac yn broffesiynol.

hyblygrwydd yn eu haddysgu er mwyn i ddysgwyr ddatblygu eu cymhwysedd pwnc mewn amgylchedd sy'n meithrin mwynhad.



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 44 Proffil Myfyriwr

gweler y dudalen nesaf

125

Made with FlippingBook flipbook maker