Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

TAR Mathemateg

Rwyf wedi mwynhau pob eiliad o’r cwrs TAR Mathemateg, hyd yn oed gyda’r newidiadau a chyfyngiadau a achoswyd gan COVID-19. Mae hyn o ganlyniad i’r cynllunio manwl sydd wedi mynd at greu’r cwrs gan Brifysgol Abertawe. Rwyf wedi derbyn swydd mewn ysgol uwchradd gyfrwng Cymraeg yn Sir Powys ac edrychaf ymlaen at gael dechrau addysgu yn yr ysgol ym mis Medi. Er i’r pandemig greu heriau newydd yn ystod y flwyddyn, ni chafodd hyn effaith ar strwythur a diben y cwrs. Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau bod y cwrs TAR yn cynnwys yr holl brofiadau sydd eu hangen ar ddarpar athrawon i ddatblygu i fod yn athrawon llwyddiannus. Prif ffocws y cwrs yw datblygu ymarferwyr myfyriol sy’n cael eu cyfeirio gan ymchwil ac mae’r darlithwyr arbenigol yna i dy gefnogi a chynnig arbenigaeth, pob cam o’r ffordd. Gyda’r Cwricwlwm Newydd i Gymru yn dod i rym yn 2022, does dim cyfle gwell i unigolion ymuno â Phrifysgol Abertawe er mwyn cael y dechrau gorau i’w gyrfa addysgu!

Trwy wybod y byddaf yn cael fy nghefnogi gan Brifysgol Abertawe gyda gwersi gloywi iaith Gymraeg a thrwy glywed bod yna alw gan Lywodraeth Cymru am athrawon sy’n medru addysgu trwy’r Gymraeg, roedd penderfynu astudio yma yn un hawdd a naturiol. Teimlaf fy mod wedi gwneud ffrindiau gydol oes ac yn sicr teimlaf fy mod wedi derbyn y cymorth angenrheidiol i ddatblygu i fod yr athrawes yr wyf erbyn heddiw. Roedd dyddiau heriol yn ystod y flwyddyn ond gyda chymorth fy mentor pwnc yn yr ysgol ac yn y brifysgol, rydw i wedi goroesi’r heriau ac rwy’n falch iawn o fy hun. Yn ogystal ag ennill bwrsariaeth STEMM Llywodraeth Cymru gan i mi raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg, rwyf hefyd wedi derbyn cymorth ariannol o dan gynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory gan i mi gwblhau’r cwrs TAR yn llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried gyrfa addysgu i fynd amdani – mae’n yrfa mor foddhaol a gwerth chweil.

Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau bod y cwrs TAR yn cynnwys yr holl brofiadau sydd eu hangen ar ddarpar athrawon i ddatblygu i fod yn athrawon llwyddiannus. Prif ffocws y cwrs yw datblygu ymarferwyr myfyriol sy’n cael eu cyfeirio gan ymchwil ac mae’r darlithwyr arbenigol yna i dy gefnogi a chynnig arbenigaeth, pob cam o’r ffordd.

124

Made with FlippingBook flipbook maker