Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MANTEISION ASTUDIO

Am fwy o wybodaeth a chanllawiau ymgeisio gweler colegcymraeg.ac.uk

MANTAIS ARIANNOL Gall astudio rhan o dy gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod o fantais i ti yn ariannol gyda nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis gwneud. Gelli ymgeisio am ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe neu ar ôl i ti gyrraedd. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod modd i unigolion sy’n ddwyieithog ennill cyflog uwch ar gyfartaledd na chyfoedion sydd yn siarad dim ond un iaith. RHAGOLYGON GYRFA Mae cyflogwyr yng Nghymru yn chwilio am unigolion sydd â sgiliau yn yr iaith Gymraeg a gall astudio rhan o dy gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn hynod fanteisiol felly. Bydd nodi’r sgiliau hyn yn ychwanegiad atyniadol iawn ar dy CV ac yn rhoi mantais gystadleuol i ti mewn nifer o achosion. Yn ogystal â hyn mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyfrwng Cymraeg yn y gweithle ac i ennyn cysylltiadau a phrofiadau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol. Y GYMDEITHAS GYMRAEG (GYMGYM) Mae’r GymGym yn rhoi cyfleoedd amrywiol i ti gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe ac Aelwyd yr Elyrch. Mae astudio cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol yn gyfle arbennig i ddatblygu dy sgiliau ac i fanteisio ar gyfleoedd a fydd yn helpu agor y drws i ddyfodol disglair.

Tom Kemp, Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Shwmae! Tom Kemp ydw i a fi yw dy Swyddog Materion Cymraeg ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Prif gyfrifoldebau fy swydd yw sicrhau bod gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, hawliau cyfartal, a hyrwyddo iaith, diwylliant a hanes Cymraeg a sicrhau dwyieithrwydd yn y Brifysgol. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, byddaf yn sicrhau bod yr iaith Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth at graidd popeth y mae’r Brifysgol yn ei wneud trwy gynnal amryw o ddathliadau a digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Byddaf yn cynnig cyfleodd i fyfyrwyr gyfranogi mewn gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr. Fy nod yw sicrhau bod pob myfyriwr, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, yn byw o fewn y Deyrnas Unedig neu dramor, yn cael profiad Cymraeg yn y Brifysgol. Croeso mawr i ti gysylltu â fi: tom.kemp@swansea-union.co.uk

BWRSARIAETHAU MEISTR CYFRWNG CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU (£1,000) Bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio gradd Meistr a addysgir gwerth 180 credyd llawn ac sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Cer i dudalen 21 am fanylion.

44

Made with FlippingBook flipbook maker