Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MAE GEN I HAWL

Mae gen ti hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol.

GWASANAETH CWNSELA

LLYTHYRAU yn y Gymraeg

yn y Gymraeg

CAIS AM GYMORTH ARIANNOL

yn y Gymraeg CYFARFODYDD

yn y Gymraeg

LLYFRYN CAIS AM GYMORTH ARIANNOL yn y Gymraeg

yn y Gymraeg TYSTYSGRIFAU

CYFLWYNO GWAITH YSGRIFENEDIG yn y Gymraeg

PROSBECTWS yn y Gymraeg

TIWTOR PERSONOL sy’n siarad Cymraeg

yn y Gymraeg FFURFLENNI

Alpha Evans, Enillydd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi 2021

Roedd hi’n fraint enfawr i dderbyn Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi; ysgoloriaeth yn enw un o gewri ein cenedl fu mor weithgar ac angerddol dros y Gymraeg, ei diwylliant ac ysgolheictod Cymru yn genedlaethol, ond hefyd ym Mhrifysgol Abertawe ac Adran y Gymraeg yn benodol. Drwy gydol fy nghyfnod fel myfyrwraig israddedig yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, derbyniais lwyth o gyfleoedd gwerthfawr gan Academi Hywel Teifi ac roedd derbyn yr ysgoloriaeth hon llynedd yn goron ar y cyfan, ac rwy’n ddiolchgar dros ben.

Alpha Evans, a raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe y llynedd, yw enillydd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi sy’n werth £3,000. Mae’r Ysgoloriaeth yn helpu Alpha i gyflawni ymchwil ôl-radd sy’n archwilio diwylliant, iaith a gweithrediadau cyfreithiol tref Abertawe a Sir Forgannwg rhwng 1870 a 1914.

45

Made with FlippingBook flipbook maker