Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PROFIADAU

Fel rhan o’r cwrs gradd MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Estynedig, treuliodd Ulrike semester yn Katholieke Universiteit Leuven a semester yn Université Catholique de Louvain, y ddwy ohonynt yng Ngwlad Belg. Ulrike Leonhard

Mae fy mlwyddyn dramor yng Ngwlad Belg wedi bod yn brofiad gwych. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd o bob cwr o’r byd a ches i gyfle i deithio ledled Gwlad Belg. Mae’r Iseldiroedd, yr Almaen, Lwcsembwrg a Ffrainc oll o fewn pellter agos felly nid oes terfyn ar y cyfle i archwilio! Ni allai fy mhrofiad fel myfyriwr yn y ddwy brifysgol fod yn well. Roedd astudio ar gyfer y Radd Meistr Estynedig yn gyfle ardderchog, gan gynnwys y cyfle i wneud cais i astudio dramor yn Ysgol Bush, Texas A&M. Bu’n brofiad anhygoel gan fod Ysgol Bush yn cynnig un o’r cyrsiau Cysylltiadau Rhyngwladol gorau gan ysgol gyhoeddus yn America. Yn ogystal ag ehangu fy nghyfleoedd gyrfa, bydd y cyfle hwn yn golygu y gallaf astudio fy nghwrs o safbwynt gwahanol. Rwyf wedi mwynhau pob munud o’m cwrs yn fawr ac rwy’n falch iawn fy mod wedi dewis astudio ymhellach ym Mhrifysgol Abertawe.

Fel myfyriwr Prifysgol Abertawe, mae cyfleoedd i gael profiad rhyngwladol drwy ein hamrywiaeth o raglenni diwylliannol, gwirfoddoli ac astudio nad ydynt yn dwyn credydau yn ystod yr haf: abertawe.ac.uk/rhaglenni-haf At hynny, gallai rhai myfyrwyr gael cyfle i dreulio cyfnod dramor fel rhan o raglen Meistr Estynedig. Mae manylion am yr opsiynau hyn ar gael ar dudalennau cyrsiau penodol. Mae yna ystod o gyfleoedd cyllido ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n dewis mynd dramor – cyfeiria at ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf:

a bertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang/ cyfleoedd-byd-eang/cyllid-ac-ariannu

Astudiodd Natalie Pittman Radd Meistr Estynedig mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a threuliodd semester dramor yn The Bush School ym Mhrifysgol Texas A&M. Natalie Pittman

43

Made with FlippingBook flipbook maker