FFIOEDD A
Rydym yn ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol mewn addysg ôl-raddedig. Yn 2020/21 roedd dros £8 miliwn mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i astudio cyrsiau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein hysgoloriaethau meistr ar gael ar draws yr holl golegau ac ysgolion academaidd ac yn cael eu hysbysebu trwy gydol y flwyddyn, gan gynnig cyllid i fyfyrwyr y DU, yr UE a Rhyngwladol.
FFIOEDD DYSGU Caiff ffioedd dysgu eu pennu yn ôl dy flwyddyn astudio, y math o gwrs rwyt yn ymgymryd ag ef a dy wlad breswyl. Gofynnir i ti dalu dy ffioedd, neu ddangos tystiolaeth o nawdd, cyn cofrestru neu yn ystod y broses gofrestru. Gelli ddod o hyd i fanylion am ffioedd dysgu pob cwrs ar ein gwefan: abertawe.ac.uk/ol-raddedig Mae ffioedd dysgu yn destun codiadau blynyddol a chyhoeddir y cyfraddau newydd ar ein gwefan cyn gynted ag y byddant ar gael. Os hoffet gael rhagor o wybodaeth am y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer dy raglen benodol, cysyllta â’r Swyddfa Cyllid Myfyrwyr ar: +44 (0)1792 602700 studentfinance@abertawe.ac.uk Edrych ar ein tudalen we Ffioedd a Chyllid cyn gwneud cais i astudio yn Abertawe. abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ffioedd-ac-ariannu Sylwer bod angen talu ‘ffi fainc’ o £1,000 yn ogystal â’r ffi ddysgu ar gyfer y rhaglen MRes yn y Biowyddorau. CYLLID Mae sawl ffordd i ariannu dy astudiaethau ôl-raddedig bellach. Yn ogystal â’r ysgoloriaethau a’r bwrsariaethau y mae Prifysgol
YSGOLORIAETHAU’R RHAGLEN YMCHWIL
Abertawe yn eu darparu, gall ôl-raddedigion gael arian gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, cynghorau ymchwil, diwydiant ac elusennau. Mae llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig yn ariannu eu hastudiaethau drwy ‘portffolio ariannu’, gan gasglu arian o amrywiaeth o ffynonellau. Mae enghreifftiau o’r mathau o arian sydd ar gael yn cynnwys: BENTHYCIADAU I ÔL-RADDEDIGION Mae cyllid ôl-raddedig y llywodraeth ar gael i bob myfyriwr sy’n byw yn y DU a’r UE sy’n astudio cyrsiau lefel meistr a PhD mewn prifysgol yn y DU. Mae’r dull o gymhwyso a’r swm y gelli ei dderbyn yn dibynnu ar dy wlad breswyl. Gelli ddod o hyd i’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ffioedd-ac-ariannu/ benthyciadau-ol-raddedig YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU MEISTR PRIFYSGOL ABERTAWE Rydym yn hysbysebu ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau meistr trwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd yr holl gyfleoedd yn cael eu rhestru ar y wefan ganlynol, ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau/meistr-a- addysgir
Gellir dod o hyd i ysgoloriaethau ymchwil yn Abertawe drwy ddilyn y ddolen isod. (Noder y caiff y dudalen hon o’r wefan ei diweddaru drwy gydol y flwyddyn.) abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau/ysgoloriaethau- ymchwil-/ Caiff manylion ynghylch sut i gyflwyno cais am ysgoloriaeth eu rhestru ar bob hysbyseb unigol. Mae llawer o’n cyfadrannau academaidd hefyd yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau ychwanegol ar gyfer rhaglenni a addysgir a rhaglenni ymchwil. Caiff ysgoloriaethau a bwrsariaethau eu cynnig drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn eu hysbysebu ar ein gwefan. Gelli sicrhau dy fod ymhlith y cyntaf i gael gwybod am y cyfleoedd ariannu a gynigir gennym drwy edrych ar: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau ELUSENNAU, SEFYDLIADAU AC YMDDIRIEDOLAETHAU Mae nifer fawr o elusennau, sefydliadau ac ymddiriedolaethau YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU‘R CYFADRANNAU
yn dyfarnu arian i gefnogi astudiaethau ôl-raddedig.
22
Made with FlippingBook flipbook maker