Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

BWRSARIAETH MEISTR STEMM LLYWODRAETH CYMRU Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i astudio graddau Meistr yng Nghymru. Mae’r Bwrsariaeth gwerth £2,000 yr un tuag at ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion sy’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth, neu bynciau ‘STEMM’. BWRSARIAETH MEISTR LLYWODRAETH CYMRU AR GYFER 60+ Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru sy’n 60 oed a hŷn i wneud eu gradd meistr yng Nghymru. Mae pob bwrsariaeth werth £4,000 tuag at y ffioedd dysgu. BWRSARIAETH MEISTR CYFRWNG CYMRAEG LLYWODRAETH CYMRU* Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer cynllun bwrsariaeth newydd i ddenu myfyrwyr o Gymru i astudio graddau Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Bwrsariaeth gwerth £1,000 yr un ac ar gael ar gyfer

Gellir cael manylion yn The Grants Register (a gyhoeddir gan Palgrave Macmillan) a The Directory of Grant Making Trusts (a gyhoeddir gan y Sefydliad o Newid Cymdeithasol), y dylai’r ddau ohonynt fod ar gael o wasanaeth gyrfaoedd dy brifysgol a dy lyfrgell leol. ENNILL TRA BYDDI DI’N DYSGU Mae digon o swyddi rhan amser ar gael yn Abertawe a’r ardal leol, ac mae gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe wybodaeth am amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer gwaith dros dro a gwaith rhan amser, yn ogystal â lleoliadau haf ac interniaethau. Am ragor o wybodaeth, gweler:  myuni.abertawe.ac.uk/ gyrfaoedd/parth-cyflogaeth CYNORTHWYO UNIGOLION SY’N GADAEL GOFAL Rydym yn gweinyddu ac yn darparu’r Pecyn Cynorthwyo i Bobl sy’n Gadael Gofal, sef amrywiaeth gynhwysfawr o fesurau er mwyn helpu pobl sy’n gadael gofal i ymgartrefu ac i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr ôl-raddedig cymwys dderbyn bwrsariaeth Gadael Gofal ôl-raddedig sy’n daliad untro y cwrs. GWOBR CYFLE PRIFYSGOL ABERTAWE Bwriad y gronfa galedi yw cefnogi myfyrwyr trwy unrhyw amgylchiadau ariannol annisgwyl neu anodd tra byddant yn y Brifysgol. Bydd pob cais yn cael ei ystyried a’i asesu ar sail unigol, gyda’r cyfrinachedd llymaf gan ein cynghorwyr arbenigol. Am fwy o wybodaeth, cer i:  abertawe.ac.uk/arian- bywydcampws

myfyrwyr sy’n astudio gradd Meistr a addysgir gwerth 180 credyd llawn ac sy’n dewis astudio 40 credyd neu fwy o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. CANLLAW AMGEN I GYLLID ÔL-RADDEDIG Adnodd a ysgrifennwyd gan ddau fyfyriwr ôl-raddedig sydd wedi ennill dros £45,000 rhyngddynt drwy 55 dyfarniad gan elusennau gwahanol. Mae The Alternative Guide to Postgraduate Funding yn cynnwys cronfa ddata enfawr o gyfleoedd, arweiniad ac offer o ran cyllid i dy helpu i baratoi cais llwyddiannus am grant. Mae Abertawe wedi talu am drwydded er mwyn iti allu cyrchu’r Canllaw. E-bostia alternative.funding.guide@ abertawe.ac.uk a byddwn yn anfon e-bost atat gyda chyfarwyddiadau i gyrchu’r Canllaw.*

CYNGOR A CHYMORTH ARIANNOL Mae’r Tîm Arian@BywydCampws yn cynnig arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, gan gynnwys: • Grantiau, benthyciadau, bwrsariaethau a budd-daliadau lles • Dy helpu i reoli dy arian • Gwobr Cyfle • Cynorthwyo unigolion sy’n gadael gofal • Dy helpu i lunio cyllideb realistig • Cyngor ar ddyledion

money.campuslife@abertawe.ac.uk

+44 (0)1792 606699

*Sylwer y darperir y canllaw hwn yn Saesneg yn unig.

23

Made with FlippingBook flipbook maker