Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

YMUNA Â’N

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym ni’n hynod o falch o’n graddedigion. Pan fyddi di’n astudio gyda ni, byddi di’n ymuno â miloedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi defnyddio eu profiadau yn Abertawe i osod eu marc ar y byd. Mae llawer ohonynt wedi mynd ati i brofi llwyddiant yn eu gyrfaoedd, gan ddod yn arweinwyr busnes, yn bencampwyr chwaraeon, cynnal ymchwil sy’n torri tir newydd, neu ddod o hyd i’w lle yng ngolwg y cyhoedd. Rydym ni’n rhannu rhai o’u straeon ysbrydoledig yma.

ANDREW TEILO, MA Cymraeg. Dosbarth 2021. ACTOR “Penderfynais astudio am radd Meistr oherwydd roeddwn am ymestyn fy hun! Roeddwn hefyd am ‘gymhwyso’, rywfodd, yn y Gymraeg, neu, yn y man lleiaf, ddefnyddio’r Gymraeg fel cerbyd i’m hastudiaethau. Yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, roeddwn yn rhy oriog fel disgybl ysgol i benderfynu ar lwybr bywyd i mi fy hun, ac yn fuan wedyn cymerai fy mywyd proffesiynol fy holl egni, a hynny am nifer fawr o flynyddoedd. Er hynny, ro’n i’n ymwybodol iawn ar hyd yr amser fy mod wedi ‘gadael rhywbeth ar ei ôl’; gadael hefyd i ryw gyfle amhenodol ddianc trwy’m dwylo, fy mod heb wireddu rhyw ‘botensial’. Yn fras, ymgais i unioni hynny oedd fy mhenderfyniad i geisio gradd MA i mi fy hun. Mae astudio’n sbort! Dewisa faes sydd yn dy gynhyrfu, tafla dy hun i ganol y gwaith, a phaid â bod ofn arbrofi â syniadau a chyfeiriadau! Cei addysg, gofal a chyngor heb ei ail ym Mhrifysgol Abertawe, a phrofiadau addysgol fydd yn aros gyda ti am byth.”

RAWAN TAHA, MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Dosbarth 2018. DEILIAD YSGOLORIAETH EIRA FRANCIS DAVIES. CYMRAWD MATERION DYNGAROL. YMGYRCHYDD YN ERBYN NEWID HINSAWDD.

“Fel menyw Affricanaidd ysgolheigaidd ifanc, roeddwn i’n chwilio am brifysgol a oedd yn darparu cyfleoedd i arweinwyr ifanc fel fi. Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol yw i ddefnyddio eu hamser yn y Brifysgol i ddatblygu y tu hwnt i’w gradd, eu traethawd a’u trawsgrifiadau. Dim ond wedyn fyddi di’n gallu ennill swydd a chael bywyd sydd y tu hwnt i dy ddisgwyliadau.” a bertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn- fyfyrwyr/rawan-taha

24

Made with FlippingBook flipbook maker