Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

RYDYM YMA

Rwyf wedi tyfu cymaint fel person trwy gydol fy nghyfnod fel myfyriwr israddedig yn Abertawe a nawr yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr ôl-raddedig yn ogystal ac rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn fy hun. Rwyf wedi sylweddoli cymaint fy mod yn dwlu ar ddysgu o’i gymharu â fy nghyfnod yn yr ysgol am fy mod wedi dewis astudio rhywbeth sy’n llawer mwy pleserus nag astudio ar gyfer arholiadau TGAU neu Safon Uwch lle teimlais nad oedd modd i mi ddysgu am y pethau yr oeddwn yn dymuno dysgu amdanynt. Rwyf wedi bod yn rhan o gymdeithasau ers y pedair blynedd diwethaf ac maent wedi gwella fy nghyfnod yn y Brifysgol mewn ffordd na allwn fod wedi’i dychmygu. Mae cynifer o bethau ar gael ac mae cychwyn dy gymdeithas dy hun yn hawdd iawn os nad oes rhywbeth at dy ddant. Trwy fod yn aelod o bwyllgor rwyf wedi gwella fy sgiliau arweinyddiaeth a threfnu a byddwn yn ailadrodd hyn mewn chwinciad. Mae’r adborth academaidd yn dda iawn, caiff gwaith ei farcio’n brydlon ac fel arfer cei sylwadau ac awgrymiadau sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer y dyfodol. Rwyf wedi defnyddio canolfan gyngor y Brifysgol ar sawl achlysur ac mae’r staff wedi bod yn anhygoel. Roedd modd i mi weld rhywun ymhen ychydig o ddyddiau a derbyniais gyngor a chymorth defnyddiol iawn.

MYUNIHUB – Sut y gallwn dy helpu? Mae MyUniHub yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyriwr o gofrestru i raddio. Mae’r tîm hefyd yn darparu cyngor, arweiniad ac atgyfeiriadau ar gyfer dy holl ofynion cymorth yn ystod dy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Gelli ymweld â’n timau profiadol a chyfeillgar ar Gampws Singleton ac ar Gampws y Bae. Gelli fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr yn ystod dy astudiaethau ôl-raddedig, gan sicrhau bod dy amser yma ym Mhrifysgol Abertawe mor ddi-straen a hwylus â phosib.

Caroline (Myfyriwr Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe, adolygiad WhatUni)

www.whatuni.com

56

Made with FlippingBook flipbook maker