Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

GWNEUD CYNALIADWYEDD YN RHAN HANFODOL O

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth eang o gynefinoedd i’w mwynhau, o draethau i goetir a pharciau, ac rydym yn angerddol am ddatblygu cynaliadwy er lles ein cymuned leol, y DU a’r byd ehangach. Fel myfyriwr, bydd digon o gyfleoedd i ti gyfrannu at gadwraeth ymarferol. Gelli wirfoddoli i helpu i gadw’r ardaloedd hyn yn arbennig drwy gymryd rhan yn ein sesiynau rheolaidd i lanhau’r traethau, ein partïon gwaith a monitro bywyd gwyllt. Yn ogystal â helpu’r amgylchedd, byddi di’n dysgu sgiliau newydd ac yn cwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd GWOBR CYNALIADWYEDD Os oes gen ti ddiddordeb mewn ailgylchu, bioamrywiaeth, lles neu unrhyw beth yn y canol, mae gennym ni rywbeth i ti! Ein rhaglen ymgysylltu â myfyrwyr flaenllaw yw’r Wobr Gynaliadwyedd. Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc, mewn unrhyw flwyddyn ar eu cwrs gradd weithio tuag at y wobr hon drwy gydol eu cyfnod gyda ni ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cwblhau’r wobr yn cyfrannu at dy gofnod academaidd ac mae’n addysgu ystod eang o sgiliau i ti.

Plastigau, gan gynnwys poteli plastig untro, yw’r math o sbwriel a ddarganfyddir amlaf ar draethau’r DU ac nid oes rhaid i ti edrych yn bell i’w canfod yn sbwriel ein trefi a’n mannau gwyrdd hefyd. Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol gynaliadwy flaenllaw ac rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi Refill (cynllun sy’n darparu gorsafoedd ail-lenwi dŵr mewn lleoliadau ledled Abertawe a’r Brifysgol) gyda’n partneriaid yn Abertawe Plastig Am Ddim ac Undeb y Myfyrwyr. Mae Swyddogion Undeb Myfyrwyr wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi lansio’r ymgyrch; bellach, mae gennym o leiaf 30 o orsafoedd Adnewyddu

abertawe.ac.uk/cynaliadwyedd

ar draws ein campysau Bae a Pharc Singleton i’r gymuned gyfan eu defnyddio.

(Cynghrair Prifysgol People & Planet 2021) 10 UCHAF YN Y DU

SWell – Cynllun Cynaliadwyedd a Lles ar gyfer Myfyrwyr a Staff

CYNGHRAIR PRIFYSGOL

Teifion Maddocks Rheolwr Cynaliadwyedd, Prifysgol Abertawe

(2021/22)

Yr unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU wedi’u rhestru yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol.

55

Made with FlippingBook flipbook maker