Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Mae rhai o’n myfyrwyr presennol yn rhannu eu profiadau o drosi o astudiaethau israddedig i ôl-raddedig isod:

ISRADDEDIG I

Mae llawer iawn o’r pedair mil o’n cymuned ôl-raddedig yn gyn-fyfyrwyr israddedig a wnaeth fwynhau eu hamser yn Abertawe cymaint, gwnaethant benderfynu aros! Mae llawer o fanteision i aros gyda ni yn Abertawe i astudio dy radd ôl-raddedig. 1. Byddi di eisoes yn gyfarwydd â’r Brifysgol, ei champysau a’r ardaloedd o amgylch. 2. Gan y byddi di eisoes wedi astudio gyda ni, byddi di’n gwybod am y lleoedd gorau i fyw, astudio, bwyta neu ymlacio! 3. Byddi di’n dal i allu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau a gynigir gan adrannau megis Academi Cyflogadwyedd Abertawe, Academi Hywel Teifi, Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd a MyUniHub. 4. Mae nifer o gyfleoedd i ti astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig gan roi mantais sylweddol i ti yn ariannol ac o ran dy gyflogadwyedd. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti astudio yn yr iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ymlaen i ti ac mae digon o gefnogaeth ar gael i dy alluogi i ddychwelyd at astudio yn y Gymraeg os na wnest ti hynny dros y blynyddoedd diwethaf. 5. Efallai dy fod eisoes yn adnabod sawl cyn-fyfyriwr ôl-raddedig, ac efallai y byddi di’n gallu parhau i fyw gyda’r bobl rwyt wedi rhannu fflat â nhw. 6. Mae ystod o gyrsiau trosi Abertawe yn dy alluogi i astudio ar gyfer dy radd ôl-raddedig mewn maes pwnc newydd sbon. 7. Os wyt yn dewis astudio’r un maes pwnc, gelli barhau i adeiladu ar dy berthynas waith gyda darlithwyr a mentoriaid academaidd, gan ddatblygu dy wybodaeth arbenigol. 8. Fel myfyriwr presennol yn Abertawe, byddi di’n cwblhau ffurflen gais fyrrach ar gyfer dy gwrs ôl-raddedig dewisedig trwy lwybr carlam.

ELIN JONES TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg “Astudiais radd israddedig Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe a graddio gyda dosbarth cyntaf. Ers i mi fod yn ifanc roeddwn yn gwybod fy mod eisiau bod yn rhan o’r byd addysg. Roeddwn i’n gwybod yn syth mai parhau i astudio ym Mhrifysgol Abertawe oedd y dewis i mi. Mae’r campws yn gartrefol tu hwnt, y cyfleusterau addysgu yn rhagorol, darpariaeth a chefnogaeth addysgiadol ar gael trwy’r Gymraeg, a chymdeithas Gymraeg clos a bywiog. Mae’r cwrs TAR hwn wedi rhoi’r cyfle i mi fod yn rhan o grŵp astudio traws gwricwlaidd Cymraeg, cael gwersi Cymraeg i loywi fy iaith, ond yn bwysicach na dim, i fynychu ysgolion Cymraeg fel rhan o fy hyfforddiant ar leoliad ac i gwblhau ac ysgrifennu fy aseiniadau yn y Gymraeg hefyd. Gan fy mod wedi ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg, rwyf am dderbyn grant cymhelliant o £20,000 gan Lywodraeth Cymru am hyfforddi i ddysgu Mathemateg yng Nghymru. Mae yna hefyd gyfle i dderbyn £5,000 ychwanegol gyda chynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory Llywodraeth Cymru os af i ymlaen i addysgu trwy’r Gymraeg. “

18

Made with FlippingBook flipbook maker