Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

HYWEL EVANS MPhys, Cyn-fyfyriwr Ffiseg

“Gorffennais fy ngradd meistr Ffiseg (MPhys) a phenderfynais aros yn Abertawe ar gyfer PhD yn gweithio mewn labordy gwrthfater. Llwyddais i gael ysgoloriaeth ymchwil o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe i ariannu fy astudiaethau. Mwynheais allu trafod fy ngwaith gyda rhwydwaith o fyfyrwyr ac academyddion trwy gyfrwng y Gymraeg, a dysgu am ymchwil eraill. Bues i hefyd yn gweithio fel Arddangoswr Ôl-raddedig ar gyfer profiad addysgu ac arian ychwanegol. Mae bod yn ymchwilydd ôl-raddedig yn debyg i fod mewn swydd, ac felly roedd angen mwy o ymrwymiad amser na gyda fy astudiaethau cynt, ond mae’n baratoad da ar gyfer swydd lawn amser. Dysgais i lawer o sgiliau ymarferol, yn ogystal â chyflwyno i arbenigwyr mewn cynadleddau ledled y byd (Belffast, Dundee, Genefa a Belgrade). Mae hyn wedi gwella fy ngallu ac wedi helpu fi i lwyddo mewn cyfweliadau swydd. Roedd gan Brifysgol Abertawe yr holl adnoddau yr oeddwn eu hangen i lwyddo’n academaidd, ac mae wedi’i lleoli mor agos at barciau a thraethau gwych – doeddwn i ddim eisiau astudio unrhyw le arall!”

ALPHA EVANS PhD – Diwylliant, Iaith a Gweithrediadau Cyfreithiol: Abertawe a’r Cyffiniau, 1870-1914. Un o’r prif resymau pam gwnes i ddewis dilyn cwrs ôl-raddedig oedd oherwydd yn ystod blwyddyn olaf fy nghwrs israddedig, doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod yn barod i adael addysg eto. Yn ogystal, er fy mod wedi mwynhau gwneud darllen ac ymchwil ychwanegol ar gyfer asesiadau drwy gydol fy nghwrs israddedig, mwynheais y modiwl traethawd estynedig yn y 3edd flwyddyn mas draw. O ganlyniad i hyn, roeddwn yn gwybod mai ymchwil ôl-raddedig oedd yr hyn roeddwn eisiau ei wneud nesaf, a hynny er mwyn datblygu fy sgiliau ymchwil ymhellach a chael y cyfle i ymchwilio’n ddyfnach i faes rwy’n ymddiddori ynddo a gwneud cyfraniad gwreiddiol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, i’r maes hwnnw. Heb os, roedd y profiad anhygoel cefais fel myfyrwraig israddedig ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyfrannu at fy mhenderfyniad i aros yn Abertawe ar gyfer fy nghwrs ôl-raddedig. Derbyniais gyfleoedd a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg arbennig drwy gydol fy nghwrs israddedig, ac roeddwn yn gwybod y byddai hynny’n parhau drwy gydol fy nghwrs ôl-raddedig. Er nad wyf yn hollol sicr o ran pa fath o yrfa rydw i eisiau ei dilyn, rwyf yn ystyried gyrfa academaidd ac felly bydd medru cyfathrebu ac ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg yn golygu y bydd modd cyfrannu a chynyddu’r ymchwil cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn y maes.

19

Made with FlippingBook flipbook maker