Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

STORÏAU

Mae llu o fyfyrwyr fel ti ym Mhrifysgol Abertawe. Ymweld â’n Storïau Myfyrwyr ar ein gwefan a chael blas ar brofiad myfyriwr.

abertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

Sut gwnaeth dy radd dy baratoi ar gyfer dy yrfa? Rhoddodd wybodaeth graidd i mi o gyfraith morgludiant Lloegr, y gallu i weithio dan bwysau a datblygu fy sgiliau ysgrifennu cyfreithlon. Pa gyngor byddi di’n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn dy yrfa? Dyma’r penderfyniad cywir i ddod i’r DU i astudio cyfraith morgludiant ryngwladol, gan ei bod yn seiliedig ar gyfraith morgludiant Lloegr yn sylweddol. Mae Prifysgol Abertawe’n lle da iawn i’w dysgu. Os wyt am fod yn gyfreithiwr morgludiant o fri yn y dyfodol, fe dy gynghorir i ddysgu mwy am longau, eu strwythur, eu hanes a gwybodaeth dechnegol. Byddai’n wych dod o hyd i ffrindiau sy’n gapteiniaid er mwyn iddynt adrodd am eu hanturiaethau ar y môr hefyd!

VINCENT ZHANG, Cyfraith Forwrol Ryngwladol, LLM

Beth yw dy 3 hoff beth am Abertawe? • Parodrwydd athrawon i gael eu hamgylchynu gan fyfyrwyr ac ateb llu o gwestiynau ar ôl pob dosbarth • Gwaith cwrs byr sy’n hynod heriol i’w gwblhau mewn 24 awr • Bae Rhosili Beth yw dy hoff beth am dy gwrs? Mae’n debyg mai fy nhîm goruchwylio (SWIRL). Maen nhw wedi bod yn anhygoel trwy gydol fy ngradd ôl-raddedig, yn enwedig o ran gwneud addasiadau oherwydd y pandemig. Maen nhw wedi rhoi’r offer i mi ddatblygu sgiliau gweithio’n annibynnol ac wedi rhoi mwy o gyfrifoldeb i mi yn y labordy. Mae hyn yn beth braf gan dy fod ti’n teimlo fel pe bait ti’n gydweithiwr yn y gweithle ac nid yn fyfyriwr yn unig. Maent wedi gwerthfawrogi fy ngwaith yn fawr ac wedi fy nghefnogi i ddod yn wyddonydd ar ddechrau fy ngyrfa ble yr wyf heddiw.

Beth wyt ti’n bwriadu ei wneud ar ôl i ti raddio?

Rwyf ar hyn o bryd yn ysgrifennu fy nhraethawd ymchwil. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud gradd Meistr trwy Ymchwil ac rwy’n angerddol am ymchwil; er hynny, rydw i wir eisiau gyrfa mewn lleoliad mwy clinigol, mewn fferylliaeth gobeithio, neu efallai hyd yn oed datblygu cyffuriau. Rwy’n dechrau swydd mewn histoleg yn Ysbyty Singleton yn hwyrach y mis hwn,

CAITLIN BELLAMY, Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd, MSc

ac rwy’n gyffrous iawn i fod yn ôl mewn amgylchedd labordy! Rwy’n gwneud hyn gyda’r bwriad o ennill rhywfaint o brofiad gwerthfawr mewn lleoliad clinigol a gwneud cais am raglen hyfforddi gwyddonwyr y GIG y flwyddyn nesaf. Gobeithiaf gadw mewn cysylltiad â’r tîm yn Labordy Ymchwil Integreiddiol Mwydod Abertawe (SWIRL), mae fy amser gyda nhw wedi bod yn rhan enfawr o fy addysg ac wedi cael effaith enfawr ar y gwyddonydd ydw i heddiw. Ni allaf aros i weld lle mae eu hymchwil yn eu tywys!

30

Made with FlippingBook flipbook maker