Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Pam dewisaist di astudio MSc mewn Peirianneg Electronig a Thrydanol? Mae peirianwyr trydanol ac electronig yn gweithio i achub y blaen ym maes technoleg ymarferol, gan wella’r dyfeisiau a’r systemau rydym ni’n eu defnyddio bob dydd. Rydw i’n gwybod y bydd y radd hon yn fy rhoi mewn safle cryf ar gyfer fy nyfodol, pa bynnag lwybr gyrfa y bydda i’n penderfynu arno. Pam penderfynaist di astudio am radd ym Mhrifysgol Abertawe? Ar ôl i mi orffen fy ngradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, penderfynais ddilyn gradd PhD. Fel myfyriwr presennol, rydw i’n gyfarwydd â’r darlithwyr a rhai o’r myfyrwyr PhD. Rydw i’n gwybod eu bod nhw’n garedig iawn ac yn gymwynasgar iawn. Rydw i’n credu bod goruchwyliwr perffaith, cyfathrebu da a gwaith tîm yn allweddol wrth astudio am PhD yn llwyddiannus. Hefyd, mae’r Coleg Peirianneg yn symud o Gampws Singleton i Gampws newydd sbon y Bae, sydd â labordai penodol â chyfarpar da. Yn y cyfamser, mae enw da rhagorol Prifysgol Abertawe ar gyfer ymchwil hefyd yn rheswm pwysig dros barhau â’m PhD yn Abertawe. Beth wyt ti’n cynllunio/gobeithio ei wneud ar ôl cwblhau dy Ymchwil Ôl-raddedig? Rydw i’n edrych ymlaen at gyfle i ddechrau fy ngyrfa mewn peirianneg systemau pŵer go iawn, a defnyddio fy arbenigedd proffesiynol i’r eithaf.

Beth yw dy 3 hoff beth am Abertawe? • Y traethau • Y gymuned • Bwyd! SOPHIE MAHONEY, Marchnata Strategol, MSc

Pam dewisaist di astudio dy radd yn Abertawe? Astudiais fy ngradd israddedig mewn Rheoli Busnes yma. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r darlithwyr yn gallu dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i mi y byddwn yn mynd â nhw gyda mi yn y pen draw i’r byd gwaith. Er efallai nad yw’r darlithwyr sy’n addysgu’r radd Meistr yr un fath â’r rhai a’m dysgodd i ar lefel israddedig, roeddwn i’n gwybod bod ansawdd yr addysgu yn gyson drwy’r Ysgol Reolaeth. Hefyd, y timau cyflogadwyedd/gyrfaoedd yn y brifysgol yw’r bobl orau i fynd atynt pan fyddi di’n cyflwyno cais am leoliadau gwaith neu gynlluniau i raddedigion; maen nhw’n rhagori ar ddisgwyliadau! Beth yw dy hoff beth am dy gwrs? Amrywiaeth y modiwlau. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gul eu meddyliau o ran Marchnata, maent yn credu mai hysbysebu yn unig ydyw ond mae’n gymaint mwy na hynny ac mae’r cwrs Marchnata Strategol wedi tynnu sylw at hynny; rydym yn ymdrin â phopeth fel ymchwil marchnata, dulliau ymchwil, segmentu, cyfathrebu marchnata a marchnata digidol. Beth wyt ti’n bwriadu/gobeithio ei wneud ar ôl i ti raddio? Byddwn wrth fy modd yn gweithio i sefydliad dielw, gan godi ymwybyddiaeth ac yn y pen draw helpu’r rhai mewn angen.

ERIC WEN, Peirianneg Electronig a Thrydanol, PhD

abertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr

31 31

Made with FlippingBook flipbook maker