Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

BIOWYDDORAU CAMPWS SINGLETON

(QS World Rankings 2022) 350 YN Y BYD BIOWYDDORAU

RHAGLENNI YMCHWIL

• Biowyddorau MRes ALl RhA

• Gwyddorau Biolegol PhD/MPhil/TAR ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Bydd amrywiaeth o arbenigwyr ysbrydoledig y biowyddorau yn dy addysgu, gan gynnwys Dr Richard Unsworth, ymgynghorydd ar gyfres fyd-enwog y BBC, Blue Planet II a'r Athro Carlos Garcia de Leaniz, sy'n arbenigwr mewn ymddygiad, cadwraeth ac ecoleg eogiaid ac sy'n arweinydd prosiect AMBER Ewropeaidd aml-bartner. • Mae gennym ni gysylltiadau dylanwadol mewn sefydliadau rhyngwladol a chenedlaethol, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Mamaliaid Prydain a Chanolfan Gwlypdiroedd Naturiol Cymru i ychwanegu gwerth at dy astudiaethau. • Bydd myfyrwyr yn elwa o'n cyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf, gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy sy'n cynnwys labordai a reolir, gyda systemau dyfrol ailgylchredeg. • Mae hefyd gennym ni gwch arolygu dosbarth catamarán 18 metr a chanolfan ddelweddu sy'n unigryw yn y byd sy'n dangos gwybodaeth ddimensiynol o ddata olrhain anifeiliaid. • Mae rhai o'n graddedigion diweddar wedi symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus fel Ecolegwyr, Swyddogion Hydrometreg a Thelefetreg, Tacsonomyddion Dyfynforol a Swyddogion Bywyd Gwyllt ac Addysg. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau MSc ALl RhA

Gyda chanolfannau o'r radd flaenaf, cyfleusterau labordy pwrpasol a dinas wedi'i hamgylchynu gan barcdir ac arfordir, mae Abertawe wir yn lle rhagorol i astudio a chynnal ymchwil i’r Biowyddorau. Mae cynefinoedd amrywiol ar benrhyn Gŵyr gerllaw (sy'n safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU), yng Nghwm Tawe, ac ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol i fyfyriwr y Biowyddorau ffynnu ynddo. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL

• Mae ein rhaglenni’n canolbwyntio ar y perthnasoedd rhwng organeddau byw a'r amgylcheddau tirol, dŵr croyw a dyfrol, ynghyd â rhyngweithio sy'n ganlyniad prosesau naturiol ac anthropogenig. • Rydym ni'n cynnal ymchwil ar draws y gwyddorau naturiol, sy'n cyfuno gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol i roi amgylchedd ymchwil cynhwysfawr.

• Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedair thema, sydd wedi'u hintegreiddio yn ein cenhadaeth addysg: Systemau Morol a Dŵr Croyw, Ymddygiad Ecoleg ac Esblygiad, Bioamrywiaeth ac Ecosystemau, Cynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol.

62

Made with FlippingBook flipbook maker