Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MSc Bioleg Amgylcheddol, PhD Gwyddorau Biolegol

Y peth mwyaf a helpodd i mi gyrraedd lle rydw i heddiw oedd y cyfleoedd a gefais gan Brifysgol Abertawe o ran cyflwyno gerbron fy nghyd- fyfyrwyr a’n darlithwyr mewn seminarau megis Cyfres Seminarau i Ôl-raddedigion a alluogodd i mi ddatblygu fy sgiliau a lleddfu fy mhryderon mewn awyrgylch ddiogel lle nad oeddwn yn cael fy meirniadu. Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf y byddwn i’n cael fy mhenodi’n ’Gynrychiolydd Allgymorth Ysgolion’ pan oeddwn i yn y brifysgol ni fyddwn

wedi’i gredu. Trwy gydol fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe roedd cyflwyno a siarad gerbron pobl yn codi ofn enfawr arnaf ac roeddwn i’n osgoi hynny cymaint â phosib. Fodd bynnag, derbyniais i hyfforddiant rhagorol gan ddarlithwyr yn yr Adran Biowyddorau ar ddiwedd fy nghwrs gradd BSc ac yn ystod fy nghwrs gradd MSc gan fy helpu i fynd i’r afael â’m hofnau a dechrau magu fy hyder.

Cyfres Seminarau i Ôl-raddedigion a alluogodd i mi ddatblygu fy sgiliau a lleddfu fy mhryderon mewn awyrgylch ddiogel lle nad oeddwn yn cael fy meirniadu.

63

Made with FlippingBook flipbook maker