Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Weithiau gall fod yn anodd rheoli’r ddau! Ond mae rheoli amser a chynllunio effeithiol yn bethau da wrth gynnal dy fusnes dy hun. Beth wnaeth ysbrydoli Lowri i ddechrau ei busnes oedd ei bod yn dwlu ar bopeth sy’n ymwneud â lles a hunanddatblygiad – mae wir yn angerddol amdanynt! Roedd ei thaith hi o ddarllen a dysgu am les a sut i ddefnyddio hyn i deimlo’n fodlon ac yn hapus wedi’i hysbrydoli hi i raeadru hyn i eraill, gan annog ei bwysigrwydd i bawb. Roedd gwybod bod gan y Brifysgol wasanaethau sy’n benodol ar gyfer cefnogi busnesau myfyrwyr wedi bod yn wych. Mae rhywun bob amser ar gael i drafod pethau, hyd yn oed y pethau bychain. Mae’r cyfleoedd i gyflwyno cais ac o ganlyniad, gael yr arian wedi bod yn wych. Mae cwrdd a chydweithio ag entrepreneuriaid eraill sy’n fyfyrwyr wedi bod yn hynod werthfawr. DARGANFYDDA FWY:

LOWRI WILKIE, PhD mewn Seicoleg

Mae gan Lowri ei brand a’i busnes lles ei hun, lle mae’n cynnal gweithdai, sesiynau myfyrio a arweinir, yn cynnal sesiynau ymgilio ac yn cynnig ymgynghoriadau a hyfforddiant ar bopeth sy’n ymwneud â lles. Ar hyn o bryd, mae’n astudio PhD mewn Seicoleg gyda ffocws ar ymyriadau a rhaglenni lles. Mae wedi canfod bod astudio a chael ei busnes ei hun yn wych. Mae’r cymorth gan y brifysgol a’r Tîm Mentergarwch wedi bod yn hynod ddefnyddiol wrth feithrin a gwneud cysylltiadau. Mae’r Brifysgol wedi bod yn llwyfan gwych ar gyfer marchnata ei busnes a chael y cyfle i gwrdd ag eraill sy’n meddu ar eu busnesau eu hunain hefyd. Mae hefyd wedi’i galluogi hi i ledaenu ychydig o’i gwaith ymchwil PhD mewn ffordd fwy ymarferol, drwy ei roi ar waith yn ei modelau busnes a’r hyn mae’n ei wneud.

lowriwilkie.com

CHYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR:

Found from website recreated PMS

41

Made with FlippingBook flipbook maker