Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MEDDWL AM

CYFLOGADWYEDD: DATBLYGU GYRFA AC ENTREPRENEURIAETH Un o nodau sylfaenol y Brifysgol yw ‘paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd ein myfyrwyr’. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn darparu swyddogaeth hanfodol sy’n creu cyswllt rhwng busnesau a diwydiant a chreu cyfleoedd rhwydweithio i ti sy’n cael effaith wirioneddol. Mae ein rhaglenni academaidd yn darparu cyfleoedd dysgu diddorol sy’n galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y mae cyflogwyr a busnesau yn eu gwerthfawrogi. Rydym yn teilwra ein cyrsiau i sicrhau dy fod yn dysgu’r sgiliau proffesiynol, lefel uchel a fydd yn dy alluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni. Lle bynnag y bo modd, mae cyrsiau hefyd wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnesau, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn golygu y gallwn ychwanegu gwerth gwirioneddol at dy addysg. Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd am leoliadau a phrofiadau i helpu ein myfyrwyr i gyflawni’r hynny maent yn chwilio amdano ar ôl graddio. Y TÎM MENTERGARWCH Gall y tîm Mentergarwch dy helpu i ddatblygu dy sgiliau, cael profiad gwerthfawr a rhoi dy syniadau ar waith drwy ein hystod o wasanaethau, gan gynnwys: gweithdai, cystadlaethau, cynlluniau a mentora busnes, ar y cyd â phartneriaid busnes â phrofiad helaeth o’r byd masnachol. enterprise@abertawe.ac.uk  myuni.abertawe.ac.uk/cyflogadwyedd- menter/menter-myfyrwyr

ADDYSGU A DYSGU YSBRYDOLEDIG Mae’r gwaith ymchwil arloesol a wneir yn yr amrywiol gyfadrannau yn sail i’n haddysgu ardderchog. Mae’r ffaith eu bod yn rhan flaenllaw o unrhyw ddatblygiadau newydd a’u bod wedi’u cysylltu’n agos â diwydiant o fudd i bob un o’n cyrsiau, gan sicrhau bod ein graddedigion wedi’u paratoi’n drylwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. SUT GALL PRIFYSGOL ABERTAWE FY HELPU I? Cymorth sydd ar gael i ti: • Cyngor ac arweiniad gyrfaoedd un i un a ddarperir gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd â chymwysterau proffesiynol • Gweithdai ysgrifennu CV a pharatoi at gyfweliadau • Interniaethau tymor byr â thâl • Bwrsariaethau tuag at weithgareddau cyflogadwyedd • Cyfleoedd gwaith rhan amser fel y Cynllun Llysgennad Myfyrwyr • Gelli gwblhau ein ‘Cwrs Datblygu Gyrfa’ ar-lein sy’n dy alluogi i baratoi ar gyfer dy fywyd proffesiynol a gwella dy ragolygon gyrfa • Mentrau cyflogadwyedd sy’n benodol i’r cyfadrannau • Ffair yrfaoedd flynyddol a rhestr o ddigwyddiadau datblygu sgiliau/cyflogwyr • Cymorth cyflogadwyedd 15 mis ar ôl graddio •  Rhaglenni cyflogadwyedd penodol ar gyfer myfyrwyr sydd â rhwystrau i recriwtio megis y rhai sy’n gadael gofal a myfyrwyr anabl

DARGANFYDDA FWY:

abertawe.ac.uk/astudio/cyflogadwyedd

40

Made with FlippingBook flipbook maker