Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

UNDEB Y

swanseaunisu

swanseaunisu

susu_official

swanseaunisu

Esyllt Rosser Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2022 – 2023

Caiff Undeb y Myfyrwyr ei gynnal gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Rydym yn elusen gofrestredig sy’n cefnogi ac yn cynrychioli’r holl fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn ethol swyddogion llawn amser bob blwyddyn, sy’n cynrychioli myfyrwyr ym mhopeth sy’n ymwneud â’r brifysgol; o Gymdeithasau a Gwasanaethau i Chwaraeon, materion Cymraeg a Lles ac Addysg.

Mae gennym gynrychiolwyr colegau a phynciau hefyd – dyma’r myfyrwyr sy’n gweithio gyda’r Brifysgol i ymdrin â phroblemau sydd gan fyfyrwyr ar eu cwrs. Rydym hefyd yn gyfrifol am y siopau a bariau ar y campws – JC’s, Rebound, Root Zero, Costcutter a Fulton Outfitters. Mae’r holl arian sy’n cael ei wario yn y lleoliadau hyn yn mynd yn syth yn ôl i brofiad y myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn trefnu Pythefnos y Glas, Dawns yr Haf, Varsity, Tooters a llu o ddigwyddiadau gwych eraill i ti eu mwynhau!

48

Made with FlippingBook flipbook maker