Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Lawrlwytha ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, ynghŷd â gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol gan Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cei wybodaeth hefyd am y cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg tra’n astudio yma.

Mae’r Ysgoloriaeth yma ar gael ar gyfer myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio gradd Meistr trwy Ymchwil, MPhil neu PhD mewn maes yn ymwneud â chyfraniad y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards i ddysg a diwylliant Cymru, meysydd megis llenyddiaeth Gymraeg, yr iaith Gymraeg, y Cyfryngau, Gwleidyddiaeth neu Hanes. Cer i dudalennau Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol am fanylion pellach. YSGOLORIAETH GOFFA HYWEL TEIFI £3,000

EDRYCHA AM Y LOGO ar y tudalennau cwrs sy’n dynodi argaeledd ysgoloriaethau a chyfleoedd ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg!

47

Made with FlippingBook flipbook maker