Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Y GYFRAITH – CYRSIAU PROFFESIYNOL CAMPWS SINGLETON

Y GYFRAITH YN Y BYD (QS World Rankings 2022) 200

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) PGDip ALl RhA • Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol LLM ALl

• Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch LLM ALl RhA • Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol LLM ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Byddi di'n elwa o'n cysylltiadau ardderchog â chwmnïau cyfreithiol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. • Mae gennym ni dîm Cyflogadwyedd a Lleoliadau Gwaith dynodedig, sy'n trefnu digwyddiadau gyda'n hacademyddion er mwyn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau allweddol i ti. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Gelli di baratoi dy hun am yrfa gyfreithiol gyda rhaglen broffesiynol o Brifysgol Abertawe. Yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn llwyddo, mae ein cyfres o raglenni'n gwella dy ragolygon ac yn rhoi'r hyder i ti gamu i gam nesaf dy yrfa, boed mynd i'r byd gwaith, contract hyfforddiant, hyfforddiant pellach neu sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Rhaglenni Ôl-raddedig proffesiynol wedi'u haddysgu gan arbenigwyr gyda llu o brofiad a gwybodaeth ymarferol. • Graddau LLM sy'n canolbwyntio ar baratoi ar gyfer sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

• Addysgu mewn cyfleusterau sy'n arwain y sector. • Cymorth bugeiliol a chyflogadwyedd ardderchog, gan dy baratoi di ar gyfer dy yrfa.

Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 44

89

Made with FlippingBook flipbook maker