Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MSc Gwaith Cymdeithasol

Mae fy nghyfnod fel myfyriwr ôl-raddedig yn yr Adran Gwaith Cymdeithasol wedi bod yn un gwerth chweil a phleserus gyda staff cyfeillgar a chefnogol. Cefais swydd yn syth ar ôl cwblhau MSc mewn Gwaith Cymdeithasol, yn ogystal â dysgu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i symud yn hyderus i amrywiaeth eang o leoliadau, o ofal plant i iechyd meddwl. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i astudio a dechrau gyrfa newydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a mwynheais y cwrs cyfan. Rydw i bellach yn fyfyriwr PhD o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn astudio am ddoethuriaeth mewn trawma dirprwyol ymysg

gweithwyr cymdeithasol, sef yr hyn sydd yn digwydd o ganlyniad i fod yn dyst i drawma. Rydw i’n astudio Cymraeg ochr yn ochr â’r ddoethuriaeth er mwyn cyflawni’r dystysgrif sgiliau iaith a chyflwyno fy noethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gen i gefndir mewn dysgu ysgol gynradd a gwaith cymdeithasol i oedolion. Hoffwn gyfuno’r profiadau a’r sgiliau rwyf wedi’u datblygu yn ystod fy ngyrfa er mwyn dysgu gwaith cymdeithasol a hyrwyddo’r Gymraeg yn y Brifysgol. Os oes gen ti ddiddordeb yn y gwyddorau dynol ac iechyd ac eisiau astudio mewn prifysgol gyfeillgar a chefnogol ar lan y môr, yna rwy’n argymell dy fod yn dod i Abertawe!

Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i astudio a dechrau gyrfa newydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a mwynheais y cwrs cyfan.

96

Made with FlippingBook flipbook maker