Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

HANES CAMPWS SINGLETON

EFFAITH YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSTYRIR BOD 100 %

RHAGLENNI YMCHWIL

• Hanes MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Astudiaethau Canoloesol, MA • Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth, MA • Rhyfel a Chymdeithas, MA rhyngwladol gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 ac sy'n ymroddedig i uchafu effaith eu hymchwil er lles y cyhoedd. • Cei ddewis ymgymryd â lleoliad gwaith gydag un o amrywiaeth eang o sefydliadau partner lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. • Cei dy addysgu gan academyddion y barnwyd bod eu hymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn PAM ABERTAWE? • Byddi di'n astudio mewn dinas a chanddi dros fil o flynyddoedd o hanes a threftadaeth, sy'n gartref i adnoddau ymchwil megis Archifau Richard Burton, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. • Byddi di'n cael cyfle i weithio gyda chanolfannau ymchwil yn y brifysgol sy'n ymroddedig i astudio Cymru; gwrthdaro, cof ac ailadeiladu; y dyniaethau meddygol; rhywedd; y cyfnodau canoloesol a modern cynnar; treftadaeth; a’r celfyddydau a'r dyniaethau digidol. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Hanes MA ALl RhA

• Hanes Modern MA ALl RhA

Astudia Hanes mewn adran a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei chyfraniadau at ddealltwriaeth o'r cyfnodau canoloesol, modern cynnar a modern. Cei ddewis astudio hanes Prydain, Ewrop, cyfandiroedd America neu'r byd ehangach. Byddi di'n cryfhau sgiliau y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr academaidd, sefydliadau diwylliannol a busnesau, gan ddilyn dy ddiddordebau hanesyddol dy hun i greu darn gwreiddiol o ymchwil hanesyddol.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Hyfforddiant mewn dulliau ymchwil uwch a sylfeini deallusol a moesegol gwaith hanesyddol. • Cymorth ac arweiniad gan arbenigwyr cydnabyddedig mewn amrywiaeth o ymagweddau a meysydd hanesyddol, gan gynnwys gwrthdaro, diwylliant, anabledd, rhywedd, iechyd ac afiechyd, treftadaeth, hunaniaeth, diwydiant a gwaith, y gyfraith, gwleidyddiaeth, crefydd, gwyddoniaeth a chwaraeon.

• Cyfleoedd i greu gwaith mewn fformatau academaidd traddodiadol ac i feddwl yn greadigol am y ffordd orau o ennyn diddordeb y cyhoedd ehangach mewn ymchwil academaidd. • Aelodaeth o gymuned o fyfyrwyr

ac ysgolheigion sy'n archwilio arwyddocâd y gorffennol wrth fynd i'r afael ag anghenion dybryd y presennol.



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 44

92

Made with FlippingBook flipbook maker