Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Y GYFRAITH – LLONGAU A MASNACH CAMPWS SINGLETON

Y GYFRAITH YN Y BYD (QS World Rankings 2022) 200

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cyfraith Fasnach Ryngwladol LLM ALl RhA • Cyfraith Fasnachol Ryngwladol LLM ALl RhA • Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol LLM ALl RhA

• Cyfraith Forwrol Ryngwladol LLM ALl RhA • Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy LLM ALl RhA • Eiddo Deallusol ac Arloesi LLM ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Rydym yn elwa o gysylltiadau rhagorol â chyflogwyr ac yn cynnig ystod o fentrau, megis darlithoedd gwadd, sgyrsiau i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, digwyddiadau rhwydweithio, ffair gyrfaoedd LLM flynyddol ac ymweliadau â chwmnïau cyfreithiol blaenllaw yn Llundain. • Bydd gen ti fynediad at gystadlaethau dadlau mewn ffug lys barn ac ysgolion haf dramor i fireinio dy sgiliau. • Mae ein modiwl Cyflafareddu Masnachol Rhyngwladol (LACM17) wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr (ClArb). Mae hyn yn golygu bydd myfyrwyr LLM sy'n cwblhau'r modiwl Cyflafareddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus yn Abertawe'n gymwys i gyflwyno cais i dderbyn lefel Aelod Cysylltiol CIArb. Polisi ac Ymarfer, MA • TechGyfreithiol, LLM • Seiberdroseddu a Therfysgaeth, MA CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Hawliau Dynol, LLM •Heriau Byd-eang: Cyfraith,

Mae Ysgol y Gyfraith yn gartref i amgylchedd academaidd ffyniannus ac mae’n ymroddedig i ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, sy'n darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Fel rhan o hyn, rydym yn cynnig ystod eang o raddau LLM mewn amrywiaeth o arbenigeddau o ran cyfraith morgludiant a masnach. Fel myfyriwr LLM, byddi di'n astudio mewn amgylchedd proffesiynol ond cyfeillgar sy'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Addysgu gan academyddion sydd ar flaen y gad o ran ysgolheictod eu meysydd, y mae eu haddysgu medrus ac arloesol yn pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd ac ymarfer.

• Cymorth bugeiliol a chyflogadwyedd rhagorol a chymuned ryngwladol fywiog. • Ystod o weithgareddau a mentrau allgyrsiol a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad y mae eu hangen arnat i lwyddo.

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

91

Made with FlippingBook flipbook maker