Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PhD mewn Cemeg Grŵp ReD / SerSAM

Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi cyfle i mi fynd ar drywydd ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang gan ddarganfod rhai o leoliadau cefn gwlad mwyaf prydferth Cymru ar yr un pryd. Mae'r cyfleusterau ar Gampws Singleton a Champws y Bae wedi bod yn gefnogaeth ardderchog i fy ymchwil, ac rwy'n llawn cyffro am y gwaith y byddaf yn gallu parhau i’w wneud trwy weddill fy noethuriaeth. Gan fod Cemeg yn adran weddol newydd yn Abertawe, mae'n deimlad cyffrous bod yn rhan o gymuned o ymchwilwyr sydd oll yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at eu meysydd priodol. Fel myfyriwr PhD newydd, roedd sylfaen gref Abertawe mewn ymchwil gydweithredol yn amlwg iawn, ac rwyf wedi teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi'n fawr wrth ddysgu am gyfleusterau neu ddisgyblaethau ymchwil newydd.

Mae'r ymdeimlad cydweithredol hwn yn amlwg nid yn unig o fewn yr adran ond ar draws y cyfadrannau, gyda fy ymchwil i yn cyffwrdd â’r grwpiau SerSAM yn Ffiseg a SPECIFIC yn yr adran beirianneg – ac mae pawb yno wedi bod yn groesawgar iawn, ac wedi gwneud fy amser yn Abertawe mor bleserus a gwerth chweil. Rwy'n teimlo bod yr amgylchedd ymchwil cyfan hwn wedi fy nghefnogi trwy gydol fy noethuriaeth. Gyda'u cymorth nhw, cefais fy enwebu yn ddiweddar i restr fer gwobrau STEM i Brydain 2022. Cefais y cyfle i gyflwyno fy ymchwil i wleidyddion yn Senedd y Deyrnas Unedig ac esbonio effaith y gwaith rydym yn ei wneud ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd yn fraint cael derbyn y Wobr Efydd mewn Cemeg fel rhan o hwn, yn ogystal â'r lle cyntaf yng ngwobrau Dyson am Ymchwil tuag at greu Dyfodol Mwy Cynaliadwy.

Gan fod Cemeg yn adran weddol newydd yn Abertawe, mae'n deimlad cyffrous bod yn rhan o gymuned o ymchwilwyr sydd oll yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at eu meysydd priodol.

65

Made with FlippingBook flipbook maker