Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Y CLASURON, HANES YR HENFYD AC EIFFTOLEG CAMPWS SINGLETON

YN Y BYD Y CLASURON A HANES YR HENFYD 80

RHAGLENNI YMCHWIL

(QS World Rankings 2022)

• Y Clasuron MA drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA • Eifftoleg MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

• Hanes yr Henfyd MA drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Astudiaethau Canoloesol, MA • Hanes, MA • Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth, MA • Hanes Modern, MA • Bydd yn rhan o gymuned ymchwil ffyniannus ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Grŵp Ymchwil OLCAP (Object and Landscape Approaches to the Past), Canolfan Ymchwil KYKNOS ar gyfer llên naratif yr henfyd. PAM ABERTAWE? • Ymuna â chymuned ôl-raddedig glos a chael dy addysgu gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol. • Elwa o fynediad at ein hadnoddau unigryw yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe a'i chasgliadau o eitemau Groegaidd-rufeinaidd ac Eifftaidd.

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol MA ALl RhA

• LLên Naratif yr Henfyd MA ALl RhA • Y Clasuron MA ALl RhA

Dechreua dy astudiaethau ôl-raddedig gan ganolbwyntio ar hanes, diwylliant, ieithoedd neu lenyddiaeth yr henfyd. Mae ein cyrsiau hynod ddiddorol a thrylwyr yn cynnwys gwareiddiadau hen Roeg, Rhufain a'r Aifft, gan ddefnyddio tystiolaeth hynafol a syniadau modern i archwilio effaith, etifeddiaeth a threftadaeth y gwareiddiadau hynafol hyn. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Byddi di’n datblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol i wella dy ddealltwriaeth o'r henfyd. • Cei ddewis o amrywiaeth helaeth o

• Mae'r meysydd arbenigedd presennol yn cynnwys: hanes y cynfyd hwyr; bwyd ac arferion bwyta yn niwylliant a llenyddiaeth Rhufain; nofelau hynafol; Cyprus fel croesffordd lle roedd diwylliant, teithio a thwristiaeth yn dod ynghyd yn yr henfyd; safleoedd Pompeii a Feswfiws; diogelu treftadaeth ddiwylliannol hynafol mewn rhyfeloedd modern.

fodiwlau ar draws disgyblaethau hanes a diwylliant, ieithoedd a llenyddiaeth, gan roi cyfle i ti ganolbwyntio ar dy ddiddordebau personol a'r hyn sy'n tanio dy frwdfrydedd. • Byddi di’n gweithio ochr yn ochr â goruchwylwyr sy'n gwneud ymchwil o'r radd flaenaf mewn llawer o

feysydd pwnc amrywiol, gan fireinio a datblygu dy sgiliau ymchwil dy hun.

66

Made with FlippingBook flipbook maker