Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

RHYFEL A CHYMDEITHAS CAMPWS SINGLETON

EFFAITH YMCHWIL HANES YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL YSTYRIR BOD 100 %

RHAGLENNI YMCHWIL

• Rhyfel a Chymdeithas MA drwy Ymchwil ALl

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? •Mae Rhyfel a Chymdeithas yn cael ei ystyried yn eang yn gryfder arbenigol ym Mhrifysgol Abertawe. • Mae cysylltiad agos rhwng y Gwrthdaro a Diogelwch (ISCAS) a'r grŵp ymchwil Ailadeiladu a Chof ar ôl Gwrthdaro (CRAM) sy'n creu ymchwil o'r radd flaenaf. • Mae graddedigion yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd mewn llywodraeth rhaglen a'r grŵp ymchwil Astudiaethau Rhyngwladol, a gwleidyddiaeth, sefydliadau dyngarol, sefydliadau milwrol, busnes ac yn y cyfryngau. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Astudiaethau Americanaidd, MA drwy Ymchwil • Cysylltiadau Rhyngwladol, MA • Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol, MA • Gwleidyddiaeth, MA • Hanes, MA • Hanes, PhD/MPhil CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

• Rhyfel a Chymdeithas MA ALl RhA

Mae rhyfel wedi bod yn gatalydd newid pwerus drwy gydol hanes. Mae'r cwrs rhyngddisgyblaethol unigryw hwn yn archwilio rhai o'r digwyddiadau gweddnewidiol sydd wedi arwain at ryfel ac mae'n ymchwilio i'r effaith ar hynt hanes dynol. Mae'r cwrs hynod ddiddorol hwn yn archwilio gwrthdaro, cymdeithas, rhyfel, diwylliant a gwleidyddiaeth. Mae'n elwa o lawer o feysydd cryfder academaidd, gan gynnwys hanes, astudiaethau Americanaidd, y clasuron, hanes yr henfyd ac Eifftoleg, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, llenyddiaeth a'r cyfryngau a chyfathrebu. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae'r cwrs cydweithredol a

• Mae modiwlau dewisol eraill yn amrywio o ymagweddau at gysylltiadau rhyngwladol, i wleidyddiaeth ym Mhrydain heddiw, ac o drais, gwrthdaro a datblygu i seiberlywodraethu. • Mae diddordebau ymchwil gweithredol yn amrywio o Ryfel Cartref America, Rhyfel Cartref

rhyngddisgyblaethol hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i ystyr rhyfel drwy amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys rhai gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, technolegol,

hanesyddol, milwrol a'r cyfryngau. • Ar y rhaglenni a addysgir, bydd myfyrwyr yn astudio dau fodiwl thematig gorfodol (rhyfel, technoleg a diwylliant; a rhyfel, hunaniaeth a chymdeithas). Ymhlith y themâu a astudir mewn perthynas â rhyfel mae: rhyw; celf a diwylliant; y gyfraith a moeseg; rhyfela hybrid a seiber; ffoaduriaid; milwyr cyflog a chwmnïau milwrol preifat; rhyfel llwyr a rhyfel modern. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd modiwl portffolio ymchwil gorfodol a thri modiwl dewisol yn ogystal â phrosiect traethawd hir.

Sbaen, effaith rhyfel ar gymdeithas, gwrthdaro a strwythurau cyfreithiol, gwrthdaro arfog ac ailadeiladu ar ôl y rhyfel yn Affrica, hanes diplomyddol Ewrop ac astudiaethau strategol.

120

Made with FlippingBook flipbook maker