Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

RHEOLI IECHYD A GOFAL UWCH (YN SEILIEDIG AR WERTH) CAMPWS Y BAE

Ymagwedd Dysgu Cyfunol

RHAGLENNI YMCHWIL

• Doethur mewn Gweinyddu Busnes DBA RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? Drwy ei Hacademi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth a gydnabyddir yn rhyngwladol, Prifysgol Abertawe yw'r unig sefydliad sy'n cynnig gradd meistr â llwybr penodol mewn damcaniaeth Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth a'r cyfle i'w rhoi ar waith yn ymarferol yn y sectorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r modiwlau’n cael eu haddysgu gan ymarferwyr ac academyddion o’r radd flaenaf sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd, yn ogystal â’r byd academaidd.

• Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (yn Seiliedig ar Werth) MSc/PGDip ALl RhA

Mae Prifysgol Abertawe'n ysgogi'r broses o drawsnewid gofal iechyd byd-eang drwy ei Hacademïau Dysgu Dwys, sy'n helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr byd-eang arloesol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein cyrsiau'n addas i ymarferwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector a diwydiannau'r gwyddorau bywyd, ac maent yn grymuso gweithluoedd ledled y byd drwy feithrin yr arbenigedd, y sgiliau a'r hyder i helpu i ailwampio systemau iechyd a gofal, gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, a sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Nod y radd meistr hon yw galluogi unigolion i ymgyfarwyddo'n llwyr â pharadeim trawsnewidiol gwerth mewn iechyd a gofal; sut i’w roi ar waith yn ymarferol ar lefel poblogaeth ac unigolion, gan gyflawni canlyniadau o bwys, defnyddio technolegau digidol, cymhwyso modelau costio newydd, defnyddio ymagweddau caffael arloesol a mabwysiadu ymagwedd llwybr gofal gyfannol. • Byddi di’n datblygu'r sgiliau angenrheidiol i roi strategaeth arloesol sy’n seiliedig ar werth ar waith mewn sefydliad a bydd gen ti gyfle i roi dy ddysgu ar waith wrth i ti astudio.

Dyma rai o'r modiwlau nodweddiadol: • Archwilio Pwrpas Sefydliadol. • Iechyd a Gofal Darbodus – Polisi ac Ymarfer. • Ymchwil mewn Cyd-destun Iechyd a Gofal. • Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth: Datblygu Strategaeth. • Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth: Rhoi Strategaeth ar Waith.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid), MSc

CYLLID Mae'r Brifysgol a Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

119

Made with FlippingBook flipbook maker