Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

RHEOLI IECHYD A GOFAL UWCH (ARLOESI A THRAWSNEWID) CAMPWS Y BAE

Ymagwedd Dysgu Cyfunol

RHAGLENNI YMCHWIL

• Rheoli Busnes MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? Mae'r Academi'n cynnig fframwaith unigryw o gyfleoedd dysgu mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Chomisiwn Bevan gan gynnwys: • Cyrsiau rhagarweiniol (ar-lein/ wyneb yn wyneb) • Profiadau Dysgu Dwys • Rhaglenni Academaidd Mae hefyd yn gweithio'n agos gyda'r academïau eraill i ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr ac integredig o gyfleoedd dysgu y bwriedir iddynt ddatblygu mewn ymateb i anghenion newidiol y sectorau a'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

• Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid) MSc/PGDip ALl RhA

Mae Prifysgol Abertawe'n ysgogi'r broses o drawsnewid gofal iechyd byd-eang drwy ei Hacademïau Dysgu Dwys, sy'n helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr byd-eang arloesol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein cyrsiau'n addas i ymarferwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector a diwydiannau'r gwyddorau bywyd, ac maent yn grymuso gweithluoedd ledled y byd drwy feithrin yr arbenigedd, y sgiliau a'r hyder i helpu i ailwampio systemau iechyd a gofal, gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, a sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i alluogi rheolwyr canol ac uwch mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU ac yn fyd-eang i arwain newid trawsnewidiol ac ysgogi arloesi mewn systemau, prosesau a thechnolegau gofal iechyd. Mae gwella dy sgiliau rheoli i ymateb i'r gofynion mewn amgylchedd iechyd a gofal modern yn allweddol i sicrhau dy fod yn gallu arwain sefydliadau drwy heriau arloesol a thrawsnewidiol yn llwyddiannus. • Byddi di’n elwa o gysylltiadau a rhwydweithiau rhyngwladol, cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd ehangder yr arbenigedd ymchwil, addysgu a phroffesiynol yn cyfoethogi dy ddatblygiad yn fawr ym meysydd arloesi a thrawsnewid iechyd a gofal.

Darllen y llyfryn MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid):

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (yn Seiliedig ar Werth), MSc

Cymru Gyfan Ar Gyfer Arloesi mewn Iechyd A Gofal Cymdeithasol (IHSC) - MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid)

CYLLID Mae'r Brifysgol a Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

118

Made with FlippingBook flipbook maker