Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

RHEOLI CAMPWS Y BAE

AMGYLCHEDD YMCHWIL BUSNES YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSTYRIR BOD 100 %

RHAGLENNI YMCHWIL

• Doethur mewn Gweinyddu Busnes DBA RhA • Rheoli Busnes PhD/MPhil ALl RhA

• Rheoli Busnes MSc drwy Ymchwil ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Addysgir ein graddau ôl-raddedig gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth broffesiynol ac academaidd ym meysydd busnes a rheoli allweddol. • Dewis o achrediad gyda chorff proffesiynol, sy'n gallu rhoi hwb i dy yrfa. • Ar gael i ymgeiswyr heb brofiad blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes neu reoli. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Rheoli Ariannol Rhyngwladol, MFin • Rheoli Ariannol Rhyngwladol, MSc CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Rheoli MSc/PGDip ALl RhA • Rheoli (Busnes Cynaliadwy) MSc ALl RhA

• Rheoli (Marchnata) MSc ALl RhA • Rheoli (Menter ac Arloesi) MSc ALl RhA • Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol) MSc ALl RhA • Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) MSc ALl RhA • Rheoli (Rheoli Rhyngwladol) MSc ALl RhA • Rheoli (Technoleg Meddalwedd) MSc ALl RhA

• Rheoli (Busnes Digidol) MSc ALl RhA • Rheoli (Chwaraeon) MSc ALl RhA • Rheoli (Cyfryngau) MSc ALl RhA * • Rheoli (Cyllid) MSc ALl RhA • Rheoli (Dadansoddeg Busnes) MSc ALl RhA • Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) MSc ALl RhA

Rydym wedi datblygu'r rhaglenni MSc Rheoli ar gyfer myfyrwyr ag unrhyw radd israddedig. Mae tîm o arbenigwyr o'r sector yn cynnig addysgu ymarferol, wedi'i arwain gan ymchwil. Mae ein rhaglenni a addysgir wedi'u cynllunio i wella dy gyflogadwyedd. Mae ein cymuned ffyniannus o fyfyrwyr ôl-raddedig yn hanu o bedwar ban byd, a byddi di’n elwa o'n Campws y Bae arloesol sy'n cynnig mannau addysgu ac ystafelloedd astudio dynodedig, cyfleusterau TG helaeth ac amrywiaeth o feddalwedd arbenigol.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cymorth rhagorol i fyfyrwyr, ochr yn ochr â dy astudiaethau, gan gynnwys mynediad llawn at dîm o arbenigwyr a chynghorwyr gyrfa. • Pwyslais ar ymchwil ynghyd ag addysgu ymarferol gan dîm o arbenigwyr rheoli.

• Byddi di’n elwa o gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o sefydliadau proffil uchel, gan gynyddu cyfleoedd i rwydweithio.

* Addysgir y cwrs ar Gampws Singleton a Champws y Bae. Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 58

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler y dudalen 44



Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

115

Made with FlippingBook flipbook maker