Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

MSc Rheoli Busnes (Marchnata)

Yn ystod fy ngradd israddedig, cefais gyfnod o brofiad gwaith lle wnes i weithio gyda thîm marchnata’r Scarlets. Roedd y profiad hwn yn un bythgofiadwy ac wedi newid fy meddwl i ba faes yr hoffwn weithio ynddo yn y dyfodol. Roedd y profiad wedi fy annog i astudio MSc Rheoli yn y Brifysgol. Astudiais BA Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Doedd dim amheuaeth fy mod i eisiau astudio gradd ôl-raddedig yma oherwydd cefais brofiad anhygoel wrth astudio ar lefel israddedig ac roeddwn yn awyddus i barhau ym Mhrifysgol Abertawe am flwyddyn arall! Mae Prifysgol Abertawe yn wahanol i Brifysgolion eraill gan fod yna ymdeimlad o berthyn i gymuned, mae yna

olygfeydd rhagorol a thraethau arbennig sydd yn hynod o agos i gampysau’r Brifysgol. Mae astudio MSc Rheoli yn brofiad arbennig. Rydw i wedi mwynhau dysgu am y maes rheoli (marchnata) yn benodol. Fel myfyriwr iaith gyntaf Cymraeg doedd dim amheuaeth fy mod i am barhau i astudio fy ngradd ôl-raddedig trwy gyfrwng y Gymraeg, ac roedd yr holl gyfleoedd a gefais wedi rhoi mwy o hyder i mi wrth gyflwyno fy ngwaith. Byddaf hefyd yn derbyn Bwrsariaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer astudio gwerth 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar ôl cwblhau fy nghwrs MSc Rheoli Busnes, hoffwn weithio yn y maes marchnata, yn enwedig gyda thîm chwaraeon!

Yn ystod fy ngradd israddedig, cefais gyfnod o brofiad gwaith lle wnes i weithio gyda thîm marchnata’r Scarlets. Roedd y profiad hwn yn un bythgofiadwy ac wedi newid fy meddwl i ba faes yr hoffwn weithio ynddo yn y dyfodol.

114

Made with FlippingBook flipbook maker