Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

TWRISTIAETH CAMPWS Y BAE

AMGYLCHEDD YMCHWIL YN YR ADRAN FUSNES YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSTYRIR BOD 100 %

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Rheoli Twristiaeth Ryngwladol MSc ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Addysgir ein graddau ôl-raddedig gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth broffesiynol ac academaidd mewn agweddau allweddol ar fusnes a rheoli. • Cyngor personol a phwrpasol diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm cyflogadwyedd ymroddedig o arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd. • Byddi di’n astudio yn adeilad yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddo. • Hanes ardderchog wrth helpu ein myfyrwyr i gael swyddi gwerthfawr mewn sefydliadau o bob maint, o fusnesau bach i gorfforaethau mawr, yn lleol ac yn fyd-eang. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Gweinyddu Busnes, MBA • Marchnata Strategol, MSc • Rheoli Adnoddau Dynol, MSc CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Wedi'i seilio ar yr egwyddorion sy'n sail i Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, bydd ein rhaglen MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn dy alluogi di i feithrin y sgiliau a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol i werthuso dyfodol y diwydiant twristiaeth yn feirniadol, boed yn y DU neu dramor. Wrth gyfuno cysyniadau allweddol o fusnes, rheoli a'r gwyddorau cymdeithasol, ac enghreifftiau byd-eang, erbyn i ti raddio, byddi di wedi dy baratoi ar gyfer mathau mwy cyfrifol o dwristiaeth leol, genedlaethol a rhyngwladol.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cyfle i gael profiad o gyrchfannau lleol a thramor drwy gyfres o ymweliadau maes. • Cymorth rhagorol i fyfyrwyr, ochr yn ochr â dy astudiaethau, gan gynnwys mynediad llawn at dîm o arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd.

• Cei di dy addysgu gan academyddion arbenigol sy'n gwneud ymchwil arloesol yn y diwydiant twristiaeth. • Mannau addysgu ac ystafelloedd astudio dynodedig a chyfleusterau TG helaeth, i gyd ar gael ar Gampws y Bae arloesol.

129

Made with FlippingBook flipbook maker