Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

PA RADD YMCHWIL? Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o raddau ymchwil, gan gynnwys: PhD: Mae myfyrwyr PhD yn ymgymryd â gwaith ymchwil wedi’i oruchwylio dros gyfnod rhwng tair a phedair blynedd yn llawn amser neu rhwng chwech a saith mlynedd yn rhan amser. Wedyn, caiff y gwaith ymchwil ei gyflwyno ar ffurf thesis heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau. Rhaid i’r thesis ddangos gallu’r myfyriwr i ymdrin â’r cynnig ymchwil gwreiddiol a dylai wneud cyfraniad penodol a sylweddol at y pwnc. Defnyddir y flwyddyn gofrestru gyntaf ar gyfer PhD fel cyfnod prawf swyddogol, a chaiff yr ymgeisydd ei asesu gan yr adran cyn y gall barhau â’r gwaith ymchwil. MPhil: Gellir ei gwblhau drwy astudio am gyfnod rhwng dwy a thair blynedd yn llawn amser (rhwng pedair a phum mlynedd yn rhan amser). Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno thesis hyd at 60,000 o eiriau a chânt eu hasesu ar ffurf arholiad llafar (viva). Yn amodol ar ofynion academaidd, gall fod cyfleoedd i fyfyrwyr uwchraddio o’r radd MPhil i PhD yn ystod eu hastudiaethau. MA/MSc drwy Ymchwil: Fel arfer, un flwyddyn yn llawn amser, rhwng dwy a thair blynedd yn rhan amser. Prosiect ymchwil unigol yw’r prosiect hwn a gaiff ei ysgrifennu i greu thesis o 30,000 o eiriau. MRes: Nod MRes (Meistr Ymchwil) yw darparu hyfforddiant perthnasol er mwyn meithrin y wybodaeth, y technegau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa broffesiynol, neu er

mwyn symud ymlaen i astudiaethau academaidd uwch, PhD fel arfer. Cyflawnir MRes drwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir (gwerth 60 o gredydau) a thesis ymchwil sy’n cyflwyno canlyniad prosiect ymchwil sylweddol (gwerth 120 o gredydau). DBA: Fel arfer, mae’r cwrs gradd DBA Rheoli yn rhaglen pedair blynedd ar sail ran amser sy’n cynnwys chwe modiwl a thraethawd ymchwil. Mae pob modiwl wedi’i strwythuro ar sail bloc addysgu dwys dros dri diwrnod yn ogystal ag amrywiaeth o gymorth ar-lein gan y timau addysgu a’r goruchwylwyr doethurol. EdD: Mae’r cwrs gradd Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin â materion ym maes addysg mewn ffordd broffesiynol a beirniadol ar lefel ddoethurol. (Am wybodaeth am y cwrs – gweler tudalen 59) EngD: Mae’r Ddoethuriaeth Peirianneg yn arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r profiad i fod yn arweinwyr diwydiant ac academaidd ac mae wedi’i chefnogi gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Mae’r rhaglen ymchwil ddoethurol pedair blynedd o hyd yn cynnwys prosiect ymchwil a arweinir gan ddiwydiant wedi’i hategu gan fodiwlau sgiliau technegol, ymchwil a phroffesiynol sy’n cael eu hasesu drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau. Mae ‘Peirianwyr Ymchwil’ yn gwneud eu hymchwil mewn cydweithrediad â phartner diwydiannol a Phrifysgol Abertawe a chaiff y prosiect ei ysgrifennu ar

AI GRADD YMCHWIL YW’R DEWIS PRIODOL I MI? Ie, os wyt am wneud y canlynol: • Dilyn gyrfa yn y byd academaidd neu ymchwil • Archwilio pwnc unigol yn fanwl • Meithrin sgiliau ymchwil helaeth ac arbenigol • Gwella dy ragolygon gyrfa OES GEN TI UNRHYW GWESTIYNAU? Mae’r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i dy gynghori ynghylch a yw dy gymwysterau’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffet eu hastudio. Am ragor o wybodaeth anfona e-bost at: p gradmissions@ abertawe.ac.uk Darganfydda fwy am ein hystod o gymunedau myfyrwyr ymchwil y brifysgol a’r gyfadran y gelli ymwneud â nhw fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig: abertawe.ac.uk/ymchwil/ gwnewch-ymchwil-gyda-ni/ ymchwil-ol-raddedig

12

Made with FlippingBook flipbook maker